Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Crefyddau a Chredoau Eraill
Yn yr Adran Hon
Crefyddau a Chredoau Eraill
Yn ogystal â phrif grefyddau’r byd, mae yna filoedd o grefyddau a chredoau eraill yn cael eu harfer gan bobl ledled y byd.
Gall y rhain gynnwys rhai sydd efallai'n gyfarwydd i ti, fel Paganiaeth neu Rastaffari, yn ogystal â rhai efallai nad wyt ti wedi clywed amdanynt.
Mae Bahá'í yn un o grefyddau ieuengaf y byd wedi'i sefydlu yn y 19eg ganrif yn unig, ac Zoroastriaeth ydy un o'r rhai hynaf, gyda hanes sy'n dyddio'n ôl 3,500 o flynyddoedd.
Anffyddiaeth
Mae Anffyddiaeth (Atheism) yn gyfundrefn gred fawr, ond nid yw’n grefydd.
- Mae Anffyddwyr yn credu nad oes y fath beth â duw na fodolaeth ysbrydol
- Mae’n bosib bod yn grefyddol ac yn anffyddiwr, er enghraifft, nid yw Bwdhyddion yn credu mewn duw, ond mae ganddyn nhw gredoau crefyddol cryf
- Fel yn achos unrhyw grefydd, mae lefelau credu’n amrywio. Dywed rhai anffyddwyr ei bod hi’n anodd profi’r posibilrwydd bod duw yn bodoli, tra dywed eraill ei bod hi’n amhosib i dduw fodoli
- Mae yna lawer o resymau pam na fyddai rhywun yn credu bod duw yn bodoli. Efallai eu bod nhw’n meddwl y byddai duw yn profi’i hun trwy roi arwyddion i ni ei fod yn bodoli, neu fod y ffaith bod drygioni’n bodoli yn y byd yn golygu na all duw fod yn real
- Weithiau mae rhywun yn anffyddiwr oherwydd ei fod yn ei chael yn amhosib credu bod yna bresenoldeb ysbrydol y tu hwnt i’r hyn y gall pobl brofi sy’n bodoli. Maent yn credu bod y bydysawd a chreadigaeth gyfan yn gallu cael ei esbonio drwy esblygiad ac eglurhad gwyddonol, nid oes angen bodolaeth endid arall o'r enw Duw
- Dydy bod yn anffyddiwr ddim yn golygu nad oes gan berson foesau am nad oes ganddynt egwyddorion arweiniol crefydd i helpu nhw i wneud penderfyniadau moesol. Mae Dyneiddiaeth (humanism) yn fath o anffyddiwr sydd yn canolbwyntio ar holl rinweddau a moesau natur ddynol gyda pherthynas positif gyda'r byd
- Mae yna rhai pobl sydd ddim yn siŵr p’un a oes duw’n bodoli ai peidio. Agnostig yw’r enw ar y math yma o gred
Bahá'í
Mae'r ffydd Bahá'í yn un o'r crefyddau mawr ieuengaf yn y byd, wedi'i sefydlu yn Iran yn y 19eg ganrif.
- Roedd Iran yn wlad Mwslim yn bennaf ar yr adeg cafodd y ffydd ei gyhoeddi gan ddyn ifanc o Iran, oedd yn galw ei hun yn 'The Báb', Dywedodd byddai negesydd yn cyrraedd cyn hir gan Dduw, a dyma fydda'r diweddaraf mewn cyfres o broffwydi gan gynnwys Moses, Muhammad a'r Iesu Grist
- Mae'r Bahá'í yn credu mai Bahá'u'lláh ydy'r amlygiad diweddaraf o Dduw, ond mae'r Bahá'u'lláh ei hun wedi datgan nad ef yw negesydd terfynol Duw
- Mae'r ffydd Bahá'í yn derbyn pob crefydd gyda'r Bahá'u'lláh yn dysgu bod Duw yn ymyrryd ar wahanol adegau i amlygu mwy ohono'i hun trwy ei negesyddion (gelwir yn Negesyddion Dwyfol, neu Amlygiadau Duw)
- Undod ydy syniad canolog y ffydd, dylai pobl weithio gyda'i gilydd er lles cyffredin dynoliaeth
- Mae yna 6 miliwn o bobl Bahá'í yn y byd, mewn 235 o wledydd gyda thua 6,000 yn byw ym Mhrydain
Paganiaeth
Mae Paganiaeth wedi'i selio ar addoli natur a'r cylchdro naturiol o fywyd a marwolaeth.
- Mae Paganiaid yn credu yn y 'dwyfol' mewn sawl ffurf wahanol gyda chred gref mewn cydraddoldeb rhwng dynion a merched
- Mae Paganiaeth yn dyddio'n ôl i amser cyn-Cristion ym Mhrydain
- Mae Paganiaeth yn cwmpasu amrywiaeth eang o gredoau ledled y byd gyda rhai grwpiau yn canolbwyntio ar draddodiadau neu arferion penodol fel ecoleg, dewiniaeth, traddodiadau Celtaidd neu dduwiau penodol
- Mae'r gymuned Baganaidd yn cynnwys Wiccan (Paganiaid modern), Derwyddon (offeiriaid hynafol Celtaidd yn wreiddiol), Shamans (sy'n cyfathrebu gyda ffurfiau naturiol o egni ymwybodol i wella ac arwain pobl). Ecolegwyr Sanctaidd (sy'n astudio gwybodaeth a chredoau pobl frodorol ledled y byd), Odinyddion a 'Heathens' (yn dilyn crefyddau Norseg sy'n tarddu o ddyddiau cyn Cristnogaeth yng Ngogledd Ewrop)
- Mae ystyr y term 'Pagan' wedi cael ei gam-fynegi mewn hanes ar ôl iddo gael ei gysylltu yn negyddol gyda dewiniaeth ac yn cael ei ystyried yn wrth-Gristnogol. Nid rhai drwg ydy Paganiaid sy'n addoli'r diafol ac yn ymarfer 'hud tywyll', dydy eu credoau a'u hymarferiadau ddim yn cynnwys anafu pobl nac anifeiliaid
- Rhwng y blynyddoedd 1500 i 1660 cafodd tua 50,000-80,000 o rai tybiwyd o fod yn wrachod eu lladd yn Ewrop. Roedd tua 80% o'r rhai cafodd eu lladd yn ferched
- Mae yna rhwng 50,000 - 200,000 o baganiaid yn y DU
Paranormal
Nid crefydd yw’r paranormal ond mae'n cwmpasu’r gred mewn pethau sy’n digwydd sydd, i bob golwg, yn mynd y tu hwnt i unrhyw eglurhad gwyddonol.
- Mae gwrthrychau hedegog anhysbys (UFOs), gweld ysbrydion, ESP a digwyddiadau anesboniadwy fel y Triongl Bermwda yn cael ei gysidro'n paranormal
Rastaffari
Mae Rastaffari yn grefydd ifanc, yn ganolog i Affrica cafodd ei ddatblygu yn Jamaica yn y 1930au, yn dilyn coroni Haile Selassie I fel Brenin Ethiopia yn 1930.
- Mae Rastaffariaid yn credu bod Haile Selassie yn Dduw, ac yn dilyn nifer o Gyfreithiau'r Hen Destament ond yn credu bod ailymgnawdoliad (reincarnation) yn dilyn marwolaeth a bod bywyd yn dragwyddol
- Mae credoau Rastaffari wedi datblygu o syniadau Marcus Garvey, actifydd gwleidyddol oedd eisiau gwella statws cymar pobl dduon
- Mae dilynwyr Rastaffari yn cael eu hadnabod gydag amrywiaeth o enwau: Rastaffariad, Rastas, Dioddefwyr, 'Locksmen', 'Dreads' neu 'Dreadlocks'
- Lledaenodd y grefydd yn fyd-eang yn dilyn llwyddiant Bob Marley a'i gerddoriaeth yn yr 1970au
- Mae Rastaffariaid yn credu mai pobl dduon yw pobl wedi'u dewis gan Dduw ac yn pryderu am eu gormes a thriniaeth mewn cymdeithas
- Mae seremonïau crefyddol Rastaffari yn cynnwys siantio, drymio a myfyrio a mewnanadlu defodol o mariwana, i gyrraedd cyflwr o ysbrydolrwydd dwys
- Mae Rastaffariaid yn dilyn cyfreithiau dietegol llym a ddim yn bwyta cig yn gyffredinol, yn enwedig porc, a ddim yn yfed alcohol
- Mae cod ymarferiad crefyddol ar wahân i ferched Rastaffari
- Mae'r llew yn cael ei ddefnyddio fel symbol i gynrychioli Haile Selassie I, sy'n cael ei gyfeirio ato fel 'Llew Trechol Jiwda'
- Gwaharddir Rastaffariaid o dorri eu gwallt; yn hytrach maent yn ei dyfu a'i dwistio i mewn i wallt cagla (dreadlocks) gan fod hyn yn cynrychioli mwng y llew
- Mae yna tua un filiwn o Rastaffariaid ledled y byd gyda thua 5,000 yn byw yn Lloegr a Chymru
Seientoleg
Mae Seientoleg yn gasgliad o gredoau ac arferion wedi'u creu gan L. Ron Hubbard yn cychwyn yn 1952.
- Mae Seientoleg yn credu bod bodau dynol yn estronwyr (alien) anfarwol, fel yr allfydol neu amlygiad ysbrydol
- Mae'r bodau ysbrydol yna yn cael ei drapio fel corff materol ar y ddaear, ac yn cael ei adnabod fel 'Thetan'
- Mae'r Thetan, yn ôl credoau Seientoleg, wedi byw sawl gwaith o'r blaen yn y gofod cyn dod i'r ddaear
- Mae Seientoleg yn dysgu bod pobl wedi anghofio eu gwir natur ac yn cynnal math o gwnsela neu archwiliad, ble bydd pobl yn ceisio yn ymwybodol i ail-brofi digwyddiadau poenus neu drawmatig o'u gorffennol er mwyn rhyddhau eu hunain
- Mae Seientoleg yn ddadleuol iawn yn gwrthdaro gyda'r llywodraethau a'r heddlu mewn sawl gwlad. Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei phoblogeiddio gan bobl enwog penodol yn dod yn aelodau o Eglwys Seientoleg
Ysbrydegaeth
Mudiad crefyddol yw ysbrydegaeth, sydd wedi’i seilio ar y gred ei bod yn bosib cysylltu ag eneidiau’r meirw trwy seicig
- Cychwynnodd ysbrydegaeth yn y 1840au a pharhaodd i fod yn boblogaidd iawn yn Ewrop tan yr 1920au
- Mae ysbrydegwyr yn credu bod ysbrydion ar lefel uwch na'r byw ac eisiau cyfathrebu i ddarparu arweiniad moesol neu basio neges
Zoroastriaeth
Mae'r Zoroastrwyr yn credu bod yna un Duw o'r enw Ahura Mazda (Arglwydd Doeth) ac mai Ef greodd y byd.
- Mae Zoroastriaeth yn un o grefyddau hynaf y byd, wedi'i sefydlu gan y Proffwyd Zoroaster (neu Zarathustra) yn Iran hynafol tua 3500 o flynyddoedd yn ôl
- Am 1000 o flynyddoedd Zoroastriaeth oedd un o'r crefyddau mwyaf pwerus yn y byd. Dyma oedd crefydd swyddogol Persia (Iran) o 600 BCE i 650 CE. Dyma un o grefyddau lleiaf y byd bellach
- Mae Zoroastrwyr yn credu bod tân yn cynrychioli goleuni neu ddoethineb Duw
- Mae Zoroastrwyr yn gweddïo sawl gwaith y dydd yn draddodiadol