Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Cristnogaeth
Yn yr Adran Hon
Cristnogaeth
Cristnogaeth yw’r grefydd fwyaf poblogaidd yn y byd. Mae dros ddwy filiwn o bobl yn dilyn y grefydd yma ledled y byd. Mae Prydain yn wlad draddodiadol Gristnogol, ac mae tua 33 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr yn ystyried eu hunain yn Gristnogion.
Sefydlwyd Cristnogaeth tua 2000 o flynyddoedd yn ôl, ar ôl marwolaeth Iesu Grist. Mae Cristnogion yn credu mai ef oedd mab Duw.
Credoau
Mae Cristnogion yn credu mai Iesu Grist yw’r Meseia, unig fab Duw a anfonwyd i’r ddaear fel gwaredwr, yn ôl yr hyn a addawyd yn yr Hen Destament
- Dysgeidiaeth Iesu Grist sy’n ffurfio rhan bwysicaf y ffydd Gristnogol. Mae Cristnogion yn credu bod Duw wedi’i anfon i’n hachub ni rhag pechod
- Y groes yw prif symbol Cristnogaeth. Mae’n cynrychioli’r groes bren lle bu farw Iesu, ac mae’n atgoffa Cristnogion mai dyn oedd Iesu sy’n deall ein dioddefaint
- Wedi marwolaeth Iesu, mae Cristnogion yn credu iddo ddod yn ôl yn fyw dri diwrnod yn ddiweddarach i roi cyfarwyddiadau i’w ddisgyblion ynglŷn â sut i barhau â’i ddysgeidiaeth
- Yr Atgyfodiad yw’r enw ar hyn
Mae tair rhan i’r Duw Cristnogol. Y Drindod Sanctaidd yw’r enw ar hyn. Y tair rhan yw:
- Y Tad (Duw)
- Y Mab (Yr Iesu)
- Yr Ysbryd Glân
Mae Cristnogion yn credu ei bod yn bosib cyflawni Bywyd Tragwyddol ar ôl marw trwy Iesu Grist. Trwy gredu yn yr Iesu a byw bywyd Cristnogol, byddan nhw’n cael bywyd ar ôl marwolaeth.
- Mae Cristnogion yn credu bod yn rhaid i rywun gael ei fedyddio er mwyn dod yn aelod o’r eglwys yng ngolwg Duw. Cafodd Iesu ei fedyddio, ac mae’r seremoni’n dangos i’r byd bod rhywun yn ymrwymo i Gristnogaeth
- Yn gyffredinol, bydd pobl yn cael eu bedyddio pan fyddan nhw’n blant, ond gall rhywun sy’n dymuno dod yn Gristion gael ei fedyddio yn unrhyw oed
- Yn ystod addoliad Gristnogol, bydd pobl yn bwyta bara ac yn yfed gwin yn ystod seremoni o’r enw Cymun. Mae hyn yn cynrychioli’r hyn a wnaeth Iesu yn ystod ei swper olaf ar y ddaear. Dywedodd wrth ei ddisgyblion am fwyta bara i gynrychioli’i gnawd, ac i’w hatgoffa ei fod yntau’n ddynol fel ninnau, ac am yfed gwin i gynrychioli’r gwaed a gollodd ar ran pobl pan fu farw ar y groes
Arferion
Mae gan wahanol ganghennau’r eglwys Gristnogol gredoau sydd ychydig yn wahanol. Er enghraifft, mae Pabyddion a Christnogion Uniongred yn credu ei bod yn bosib i saint erfyn ar Dduw ar ran pobl ar y ddaear. Felly mae gan rai seintiau gysegrfeydd (shrines) neu bydd pobl yn gweddïo arnyn nhw.
- Yn gyffredinol, eglwysi yw’r enw ar fannau addoli Cristnogion, ond mae rhai mathau o Gristnogion yn defnyddio enwau gwahanol. Mae gan y Crynwyr Dŷ Cwrdd, mae gan Dystion Jehofa Neuadd y Deyrnas, tra mai mewn capel bydd Bedyddwyr yn addoli
- Offeiriaid neu weinidogion yw’r enw ar arweinyddion Cristnogol. Mae gan yr eglwys Gristnogol strwythur hierarchaidd i’w gweinidogion, sy’n golygu yr ystyrir bod rhai yn bwysicach na’i gilydd. Ym Mhrydain, Archesgob Caergaint yw arweinydd yr eglwys Brotestannaidd, a’r Pab yw’r enw ar arweinydd yr eglwys Gatholig
- Y Beibl yw’r enw ar y llyfr sanctaidd Cristnogol. Mae Cristnogion yn dilyn dysgeidiaeth y Beibl er mwyn ceisio byw bywyd sanctaidd Mae’r Nadolig yn dathlu genedigaeth Iesu Grist, ac mae’n un o’r gwyliau pwysicaf yng nghalendr Cristnogion. Mae’r ŵyl yn nodi’r diwrnod y ganwyd Iesu i’r Forwyn Fair
- Ymhlith arferion pwysig adeg y Nadolig mae rhoi anrhegion, sy’n cynrychioli’r anrhegion a roddodd y Tri Gŵr Doeth i Iesu Grist
- Mae’r Pasg yn nodi marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist. Dyma amser pwysicaf y flwyddyn i Gristnogion. Byddan nhw’n addurno eglwysi â blodau a lliwiau llon
- Mae dathliadau’r Pasg yn parhau am wythnos, o Sul y Blodau, pan ddaeth Iesu i Jerwsalem, tan Sul y Pasg, pan gafodd Iesu’i aileni. Yn ystod yr wythnos sanctaidd, mae yna sawl diwrnod pwysig arall. Mae Dydd Gwener y Groglith yn nodi diwrnod y croeshoelio, pan fu farw Iesu ar y groes
- Mae sawl grŵp, neu enwad gwahanol o Gristnogion. Protestaniaid, Catholigion a Christnogion Uniongred yw’r prif rai
- Mae yna grwpiau llai o fewn y grwpiau hyn. Ymhlith y gwahanol fathau o Brotestaniaid mae Anglicaniaid, Bedyddwyr, Efengylwyr, Lutheriaid a Methodistiaid