Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Hindŵaeth



Hindŵaeth

Hindŵaeth yw’r drydedd grefydd fwyaf yn y byd, a hefyd un o’r rhai hynaf, gydag etifeddiaeth ddiwylliannol hynod gyfoethog. Mae'n brif grefydd yn India, ble mae 80% o'r boblogaeth yn Hindŵ. Hindŵaeth yw’r drydedd grefydd fwyaf ym Mhrydain hefyd.

Credoau

Mae Hindŵiaid yn credu mewn un duwdod ysbrydol, sef Brahman. Yn hytrach na bod yn un fodolaeth - fel y duw Cristnogol - mae Brahman yn bresennol ym mhob dim, gan gynnwys yr enaid dynol.

  • Oherwydd bod y Brahman yn rhan o bopeth, yn aml mae’n cymryd ffurfiau gwahanol. Dyna pam ei bod yn ymddangos bod gan grefydd Hindŵ lawer o dduwiau. Mewn gwirionedd, ffurfiau gwahanol ar y Brahman ydyn nhw i gyd

Mae Hindŵiaid yn credu mewn tri phrif ymgnawdoliad o’r Brahman:

  • Brahma, sy’n creu’r bydysawd
  • Vishnu, sy’n diogelu ac yn cadw pethau’n dda yn y bydysawd
  • Shiva, sy’n difetha’r bydysawd. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn rhoi bywyd newydd i bethau

Yn gyffredinol, mae Hindŵiaid yn addoli un o’r tri phrif ffurf yma ar y Brahman

Ailymgnawdoliad

Ailymgnawdoliad yw’r syniad bod dy enaid yn cael ei aileni mewn corff arall ar ôl iti farw, boed yn gorff dynol neu’n gorff anifail. Mae Hindŵiaid yn credu nad yw’n bosib newid dy enaid (atman); dim ond y corff rwyt ti’n byw ynddo sy’n marw.

  • Ystyrir bod cylch ailenedigaeth yn blino’r enaid, felly amcan Hindŵaeth yw ennill rhyddhad o ailenedigaeth (moksha), a chyda hyn, dianc rhag bywyd. Taith tuag at moksha yw popeth rwyt ti’n ei wneud yn y bywyd yma, felly bydd cosb yn y bywyd nesaf am unrhyw ymgais i roi diwedd ar ddioddefaint, megis hunanladdiad
  • Mae karma yn rhan ganolog o gred Hindŵaidd. Maen nhw’n credu y cei di dy gosbi â karma drwg yn y bywyd nesaf os na fyddi di’n byw’n grefyddol yn y bywyd yma

Arferion

Mae Hindŵiaid yn credu bod Brahman yn bresennol ym mhob dim, felly mae’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd yn bwysig iawn, bydda difetha’r amgylchedd yn golygu difetha dynoliaeth hefyd.

  • Mae Hindŵiaid yn credu nad bodau dynol yw’r peth pwysicaf ar y ddaear. Er enghraifft, mae Hindŵiaid yn ystyried bod gwartheg yn gysegredig, ac ni fyddan nhw byth yn eu lladd
  • Mae crefydd Hindŵaeth yn nodi na ddylid peri niwed i bethau byw, ac mae llawer o Hindŵiaid yn llysieuwyr

Y System Cast neu Varna

Rhan bwysig arall o Hindŵaeth yw’r system cast neu varna. Mae hyn yn rhannu pawb yn y gymdeithas i gastiau gwahanol â breintiau gwahanol. Yn draddodiadol, roedd yna bedwar prif varna, ac oddi tanyn nhw, roedd yna gast anghyffyrddadwy:

  • Y Brahmins, neu offeiriaid yw’r varna uchaf, a chredir iddyn nhw ddod o geg Brahma
  • Y Kshatriyas, y dosbarth rhyfelgar neu’r dosbarth sy’n rheoli, a wnaed o freichiau Brahma
  • Y Vaishyas, masnachwyr neu grefftwyr a ddaeth o gluniau Brahma
  • Y Shudras, y llafurwyr a’r gweision di-grefft a ddaeth o draed Brahma. Y rhain oedd y dosbarth, neu’r varna isaf
  • Yr Anghyffyrddadwy, y rheiny o dras rhy isel i fod o fewn y gyfundrefn varna

Mae yna gyswllt rhwng y gyfundrefn yma ac ailymgnawdoliaeth - credir y gallet ti gael dy aileni i gast uwch mewn ymgnawdoliad diweddarach os byddi di’n byw bywyd da mewn cast is.

  • Mae gan bob cast ei ddyletswyddau’i hun, a rhaid i bobl eu cyflawni i gael eu rhyddhau o’r diwedd o’r cylch ailymgnawdoliad
  • Mae twf dinasoedd mawr yn India wedi arwain at gael gwared â’r rhan fwyaf o rwystrau castiau. Mae ystyried rhywun fel bod yn Anghyffyrddadwy bellach yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae’r system cast yn parhau i fod yn bwysig i lawer o bobl, yn enwedig yng nghefn gwlad

Angladdau

Mae angladdau’n bwysig iawn i Hindŵiaid. Bydd y rhan fwyaf o Hindŵiaid yn cael eu hamlosgi oherwydd eu bod yn credu ei bod yn haws rhyddhau’r enaid fel hyn.

Os yw’n bosibl, bydd y tân angladdol Hindŵaidd delfrydol yn digwydd ar yr afon Ganges yn India, sy’n gysegredig

Diwali

Mae gan Hindŵaeth lawer o ddiwrnodau a gwyliau sanctaidd ac un o’r rhai pwysicaf yw'r Diwali, Gŵyl y Goleuni.

  • Byddan nhw’n cynnau canhwyllau a lampau, ac yn tanio tân gwyllt. Mae’r rhain i gyd yn dathlu buddugoliaeth dda dros ddrwg
  • Dathliad o’r flwyddyn newydd yw’r ŵyl, ac mae’n digwydd dros gyfnod o bum diwrnod, rhywbryd rhwng diwedd mis Hydref a chanol mis Tachwedd

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50