Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Crefydd » Iddewiaeth



Iddewiaeth

Iddewiaeth yw crefydd pobl Iddewig ac mae tua 15 miliwn o bobl yn dilyn y grefydd yma ledled y byd. Mae gwerthoedd a hanes y bobl Iddewig yn rhan fawr o sylfaen crefyddau eraill fel Cristnogaeth ac Islam.

Mae Iddewon yn credu bod y Duw a greodd y byd wedi gwneud cytundeb â’r bobl Iddewig a’i fod wedi dangos ei gyfreithiau a’i orchmynion iddyn nhw ar ffurf eu llyfr crefyddol, y Tora. Mae Iddewon yn ystyried ac yn astudio’r cyfreithiau a’r gorchmynion hyn yn ffyddlon yn eu bywydau pob dydd.

Credoau

Prif gred Iddewiaeth yw bod yna un Duw holl-wybodus, holl-weledol a holl-gariadus a greodd y bydysawd ac sy’n dal i fod yn rhan o’i llywodraeth.

  • Mewn Iddewiaeth, mae gan bawb berthynas bersonol, uniongyrchol â Duw, ac maen nhw’n siarad â Duw yn uniongyrchol yn eu gweddïau
  • Mae Iddewon yn credu bod Duw wedi’u penodi nhw fel ei bobl sanctaidd ac y dylen nhw osod safon grefyddol a moesegol
  • Mae Iddewon yn credu bod bywyd yn Sanctaidd ac yn gysegredig
  • Y Tora yw’r enw ar lyfr sanctaidd Iddewiaeth, a chanllaw ydyw i fyw yn y modd cywir. Mae astudio’r Tora yn fath o addoli
  • Mae Iddewon yn credu yn y ’Cyfamod’, sef cytundeb Duw â nhw. Mewn cyfnewid am yr hyn mae Duw wedi’i wneud a’r hyn a wnaiff ar eu rhan, mae’n rhaid i Iddewon ufuddhau i gyfreithiau’r Tora a byw bywyd Iddewig

Mae’r gymuned yn bwysig iawn mewn Iddewiaeth ac mae gweddïo ac addoli fel grŵp yn rhan bwysig o fywyd Iddewig. Bydd llawer o bobl ifanc sy’n Iddewon yn treulio amser i ffwrdd oddi wrth eu rhieni ar brosiectau cymunedol fel kibbutz.

Mae Iddewon yn credu mewn dilyn y Deg Gorchymyn, sef:

  • Myfi yw’r Arglwydd dy Dduw, a’th arweiniodd allan o wlad yr Aifft, o dŷ’r caethwasiaeth (slavery)
  • Na chymer dduwiau eraill ar wahân i mi
  • Na wna iti ddelw gerfiedig ar ffurf dim sydd yn y nefoedd uchod
  • Na chymer enw’r Arglwydd dy Dduw yn ofer
  • Cofia’r dydd Saboth, i’w gadw’n gysegredig
  • Anrhydedda dy dad a’th fam
  • Na ladd
  • Na odineba
  • Na ladrata
  • Na ddwg gamdystiolaeth yn erbyn dy gymydog
  • Na chwennych tŷ dy gymydog

Arferion

Y Shabbat

Y Shabbat yw’r enw ar ddiwrnod sanctaidd yr Iddewon, ac mae’n ddiwrnod o orffwys. Mae Duw yn gorchymyn bod y Shabbat yn amser heddwch sy’n dechrau pan mae’r haul yn machlud ar ddydd Gwener ac yn para tan mae’r haul yn machlud ar ddydd Sadwrn.

  • Ni ddylai Iddewon weithio yn ystod y Shabbat, na gwylio’r teledu na defnyddio’r ffôn, os nad yw’n argyfwng
  • Mae Shabbat Shalom (Hebraeg) neu Gut Shabbos (Iddew-Almaenig) yn gyfarchion traddodiadol y Shabbat
  • Yn ogystal â mynychu synagog (man addoli Iddewig), mae’r Shabbat yn ddiwrnod i deuluoedd addoli Duw gyda’i gilydd
  • Bydd llawer o bobl ifanc, neu’r rheiny nad oes ganddyn nhw deulu, yn cyfarfod i ddathlu’r Shabbat gyda’i gilydd
  • Mae sawl arfer yn gysylltiedig â’r Shabbat, ac mae’n rhaid i Iddewon eu trefnu cyn y diwrnod ei hun, gan na chaniateir gwneud unrhyw waith yn ystod y Shabbat ei hun
  • Mae goleuo dwy gannwyll pan mae’r haul yn machlud ar ddydd Gwener yn arfer Shabbat pwysig. Merched fydd yn gwneud hyn fel arfer
  • Mae’r canhwyllau’n cynrychioli’r gorchymyn i gadw at y Shabbat
  • Caiff bwydydd arbennig eu bwyta yn ystod y Shabbat. Wedi goleuo’r canhwyllau, bydd y bobl yn yfed gwin melys o gwpan Kiddush, ac yn bwyta bara ffrwythlon cyn y tri phryd arbennig y mae’n rhaid i bobl Iddewig eu bwyta ar y Shabbat
  • Mae gan yr holl arferion yma ystyron arbennig. Er enghraifft mae yfed gwin yn cynrychioli dathlu Duw

Y Pasg Iddewig

Y Pasg Iddewig ydy gŵyl bwysicaf Iddewon. Mae'n cael ei ddathlu i gofio’r Iddewon yn dianc rhag caethwasiaeth (slavery) yn yr Aifft.

Mae dathliadau'r Pasg Iddewig yn para am saith neu wyth diwrnod. Yn ystod y Pasg Iddewig, ni chaniateir i Iddewon fwyta bara lefain - sef bara sydd wedi codi. Mae hyn i gofio nad oedd gan yr Iddewon amser i adael i’w bara godi pan adawon nhw’r Aifft. Mae hefyd yn atgoffa pobl Iddewig i beidio â bod yn haerllug, neu’n ’foliog’.

Mae yna fwydydd eraill pwysig yn cael eu bwyta yn ystod y Pasg Iddewig gyda phob un yn cynrychioli rhywbeth gwahanol i bobl Iddewig. Y rhain yw:

  • Cig oen i gynrychioli aberth i Dduw
  • Wy, i ddangos pa mor benderfynol oedd yr Iddewon o beidio â rhoi’r gorau i’w credoau dan ormes yr Eifftiaid
  • Gwyrdd-ddail i gynrychioli bywyd newydd
  • Dŵr halen fel dagrau caethwas
  • Byddan nhw’n yfed pedwar cwpanaid o win i gofio bod Duw wedi addo rhyddid i’r Iddewon bedair waith
  • Mae charoset (past wedi’i wneud o afalau, cnau, sinamon a gwin) yn cynrychioli’r morter a ddefnyddiwyd i adeiladu palasau yn yr Aifft pan oedd yr Iddewon yn gaethweision

Mae Iddewon yn credu y bydd y Meseia yn dod i’r ddaear yn ystod y Pasg Iddewig, ac y bydd y proffwyd Elias yn cyhoeddi hyn. Oherwydd hyn, byddan nhw’n cadw’r drws ar agor bob amser i Elias, ac yn gosod gwydraid ychwanegol o win ar y bwrdd ar ei gyfer.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50