Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Teithio ar Awyren



Teithio ar Awyren

Mae mwy o bobl yn teithio ar awyrennau nag erioed o’r blaen, ac mae bellach yn ffordd hawdd a rhad o fynd ar wyliau.

  • Gallet ti archebu taith awyren yn hawdd iawn ar y we neu drwy drefnydd teithiau. Mae gan lawer o gwmnïau hedfan gwasanaeth archebu dros y ffôn hefyd
  • Pan fyddi di’n archebu taith awyren, bydda'n ymwybodol y gall llawer o brisiau sydd wedi’u hysbysebu fod yn wahanol pan fyddi di’n mynd ati i archebu. Mae hyn oherwydd bod cwmnïau hedfan yn aml yn codi tâl ychwanegol am bethau fel treth maes awyr
  • Gall bwcio o flaen llaw rhoi cynilion mawr i ti ar bris dy docyn gyda rhai cwmnïau hedfan adnabyddus
  • Mae siwrnai hedfan fer (short-haul) yn para am lai na thua pum awr
  • Mae siwrneiau hedfan hir (long-haul) yn mynd i leoliadau ymhellach i ffwrdd fel UDA ac Asia
  • Os bydd dy daith yn cael ei gohirio neu ei chanslo, efallai y bydd gennyt ti hawl i iawndal. Os na fyddi di’n gofyn, ni chei chi ddim, felly gwna'n siŵr dy fod di bob amser yn gwybod sut y gallu di gwyno os byddi di’n teimlo’r angen
  • Mae yna dau faes awyr yng Nghymru, yng Nghaerdydd ac Ynys Môn

Teithio ar awyren a’r amgylchedd

  • Mae effaith teithio ar awyren ar yr amgylchedd yn bryder cynyddol i lawer o bobl. Mae un daith ar awyren yn cyfateb i werth blwyddyn o garbon deuocsid yn cael ei ryddhau gan un car
  • Mae awyrennau’n defnyddio mwy o danwydd na cheir neu fysiau. Oherwydd yr uchder y mae’r carbon deuocsid yn cael ei ryddhau arno, mae’n cael mwy o effaith niweidiol ar yr amgylchedd
  • Mae Llywodraeth Prydain wedi gosod targed iddi’i hun i gwtogi cymaint â 60% ar y carbon deuocsid sy’n cael ei ryddhau erbyn 2050. Fodd bynnag, os yw teithiau awyr yn cynyddu ar yr un gyfradd â’r hyn a welwyd dros y degawd diwethaf, nid yw’n debygol y byddwn ni’n cyrraedd y targed hwn, yn ôl pob golwg
  • Am fwy o wybodaeth am lygredd yr amgylchedd, cer i'r adran Amgylchedd ar wefan CLICarlein

Hedfan a dy iechyd

  • Ofn hedfan yw un o’r ofnau mwyaf cyffredin, ond ni ddylet ti adael i hyn ddifetha gwyliau. Dylai pethau syml fel anadlu’n ddwfn ac yfed llawer o ddŵr helpu. Gallet ti hefyd fynychu cyrsiau y mae cwmnïau hedfan yn eu trefnu i dy helpu di i feistroli'r ofn
  • Mae yna straeon newyddion wedi bod am thrombosis gwythiennau dwfn. Er bod hyn yn weddol anghyffredin, mae yna gamau syml y gallet ti gymryd i’w atal. Gwna'n siŵr dy fod yn llaesu dy goesau pob ryw ychydig oriau neu’n gwneud ymarferion coesau syml er mwyn symud dy draed
  • Gall ludded jet (jetlag) effeithio ar rai pobl yn fwy nag eraill. Os byddi di’n dioddef o hyn, bydd dy gorff yn dod yn ddryslyd ar ôl newid mewn rhanbarth amser. Er mwyn lleihau effeithiau lludded jet, dylet osgoi caffein ac alcohol ar dy daith, a phan fyddi di’n cyrraedd pen dy daith, ceisia ddilyn trefn bob dydd y wlad honno

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50