Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Cychod
Yn yr Adran Hon
Cychod
Fferïau
- Mae mynd ar fferi yn un o’r ffyrdd rhataf o gwblhau’r daith fer i Ewrop, yn arbennig os ydwyt yn teithio ar droed. Maen nhw hefyd yn ddefnyddiol os ydwyt am fynd â'th gar dy hun dramor
- Mae gan Gymru sawl prif borthladd fferïau teithwyr - Caergybi, Abertawe a Doc Penfro
- Yn Lloegr, gallet ti fynd ar fferi i borthladdoedd yn Sbaen, Ffrainc neu’r Iseldiroedd
- Os ydwyt yn teithio yn Ewrop, yn aml fedri di gael fferi i fynd o un wlad i’r llall. Er enghraifft, gallet deithio o Barcelona i Ynysoedd Baleares fel Ibiza. Yng Ngwlad Roeg, lle mai ynysoedd yw llawer o’r wlad, fferïau cyflym yw’r brif ffordd o deithio
Mordeithiau
- Gwyliau lle rwyt yn teithio ar gwch yw mordaith, yn aml i leoliadau egsotig, lle byddi di’n teithio o amgylch ardal
- Yn draddodiadol, ystyriwyd mai rhywbeth ar gyfer pobl hŷn oedd mordeithiau, ond mae sawl cwmni mordeithiau wedi trefnu teithiau sy’n targedu pobl ifanc, i leoliadau mwy anarferol, yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Cychod hwylio
- Gall hwylio fod yn ffordd wych o weld gwlad newydd. Byddi di’n cael cyfle i weld traethau a baeau bychain na all pobl eraill fynd atyn nhw
- Mae’n bosib llogi cwch hwylio, ond mae’n rhaid i’r sawl sy’n llogi’r cwch fod â chymhwyster hwylio cydnabyddedig
- Gall fod yn ddrud llogi cwch cyfan, ond os ydwyt yn hoffi hwylio, mae dod yn rhan o’r criw yn un ffordd o gael pas. Gallet ti weithio ar fwrdd llong rhywun arall yn gyfnewid am le i aros a thaith am ddim