Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Bysiau a Choetsis



Bysiau a Choetsis

Mae bysiau’n aml yn ffordd rad a dibynadwy o deithio o gwmpas Cymru neu ymhellach i ffwrdd. Mae coetsis yn cynnig ffordd rad a chysurus o deithio boed hynny yn y DU neu'n teithio drwy Ewrop.

Yng Nghymru

  • Yn wahanol i drenau, gallai bysiau fynd â thi i’r trefi a’r pentrefi lleiaf. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy'n byw mewn ardaloedd cefn gwlad cyrraedd lleoedd, i weithio, i siopa, i gael hwyl a gweld eu ffrindiau
  • Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau bws yn cynnig tocynnau dydd, tocynnau wythnosol, tocynnau misol a mwy, sy'n golygu y gallet dal unrhyw nifer o fysiau yn ystod y cyfnodau amser hynny. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os oes angen i ti deithio yn ôl ac ymlaen i lawer o wahanol leoedd ac yn arbed arian i ti
  • Mae ambell i fws y dyddiau hyn hyd yn oed yn cynnig Wi-fi am ddim fel y gallet ti ddefnyddio dy ffôn neu ddyfeisiau eraill a chysylltu â'r Rhyngrwyd
  • Os ydwyt yn gwybod dy fod yn mynd i wneud taith fws mae'n syniad da i wirio amserlenni felly nid oes rhaid i ti aros mewn arosfannau bysiau am gyfnodau hir o. Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddi di'n teithio yn y nos ar gyfer dy ddiogelwch personol dy hunan, a gwna'n siŵr dy fod yn dweud wrth rywun faint o'r gloch yr wyt yn disgwyl i ddal y bws a phryd byddi di'n cyrraedd adref
  • Mae TravelineCymru yn wefan defnyddiol iawn sy'n dy helpu i fapio unrhyw daith o Gymru neu o amgylch Cymru, gan roi manylion am fysiau, trenau a hefyd yn dweud wrthyt ba mor bell y bydd angen i ti gerdded rhwng cysylltiadau. Cer i Traveline Cymru.

O amgylch gweddill y DU ac Ewrop

  • Mae coetsis yn ffordd rad o gyrraedd llefydd yn y DU ac Ewrop, ac er bod y teithiau yn tueddu i fod yn hirach na threnau, gallai fod yn werth chweil ar gyfer yr arbedion ar y prisiau
  • National Express a Bysiau Mega yw'r prif wasanaethau bws yn y DU ac i mewn i Ewrop drwy ddefnyddio Twnnel y Sianel
  • Gallet ti hefyd fynd ar wyliau coetsis, a drefnwyd gan gwmni teithio lle y byddi di'n teithio ar y bws gyda'r un grŵp o bobl. Mae'r math hwn o daith yn boblogaidd ar gyfer teithiau dydd i atyniadau penodol ym Mhrydain
  • Os wyt ti eisoes mewn gwlad arall ac yn awyddus i gael bws i le arall, mae'n syniad da i archebu tocyn bws neu goets mewn gwledydd eraill cyn i ti fynd oherwydd efallai na fyddi di'n gallu gwneud hynny pan fyddi di'n cyrraedd. Gall archebu dros y ffôn neu drwy'r Rhyngrwyd

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50