Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Beiciau Modur, Mopedi a Sgwteri



Beiciau Modur, Mopedi a Sgwteri

Gallet ti yrru moped neu sgwter yn 16 mlwydd oed yn y DU a beic modur yn 19 mlwydd oed, gyda chyfyngiadau phŵer penodol.

Os wyt am yrru beic modur, moped neu sgwter, bydd angen i ti gael trwydded a phasio prawf hyfedredd (proficiency) sylfaenol cyn y gallet yrru. Am fanylion am yr holl ofynion a'r profion angenrheidiol cer i Gov.uk

  • Gall fod yn beryglus gyrru beic modur, moped neu sgwter, gan nad oes gen ti gymaint o dy amgylch i d'amddiffyn ag sydd gennyt ti mewn car. Gwna'n siŵr dy fod yn gwisgo helmed a dillad amddiffynnol bob amser rhag ofn i ti gael damwain
  • Bydda'n wyliadwrus o rai eraill sy’n defnyddio’r ffordd. Mae beiciau modur, mopedau a sgwteri yn llai na cheir felly gall fod yn fwy anodd i yrwyr ceir dy weld di yn eu drychau
  • Gyrra ar gyflymder call i osgoi damweiniau. Y cyflymaf y byddi di’n mynd, y lleiaf o reolaeth fydd gennyt ti ar y cerbyd, felly paid â chymryd unrhyw risgiau
  • Hyd yn oed os wyt ti’n gallu gyrru car, dylet ti fod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng hynny a gyrru sgwter neu feic modur. Ni fydd yn dy amddiffyn di i’r un graddau â char ac, er nad yw’n fawr iawn, mae beic modur yn llawer mwy pwerus na char

Gyrru Tramor

  • Gall cyflwr y ffyrdd mewn gwledydd tramor amrywio, felly bydda'n barod am hyn
  • Mae’n weddol hawdd llogi sgwter pan fyddi di ar wyliau, ac mae’n ffordd boblogaidd i bobl ifanc deithio. Os oes gennyt drwydded car a tithau dros 18 mlwydd oed, dylet ti allu llogi sgwter
  • Gall gyrru beic modur ar wyliau fod yn ffordd wych o weld cefn gwlad
  • Os nad wyt ti erioed wedi gyrru sgwter o’r blaen ac yn penderfynu llogi un tra rwyt ti ar wyliau, dylet ti ymarfer cyn iti fynd ar ffyrdd mawr neu ffyrdd prysur, fel dy fod di’n teimlo’n hyderus wrth yrru

Related Media

Useful Links

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 63 mis yn ôl - 25th July 2011 - 14:22pm

Nice post about the types of travel. There are different types of travel. In different places different types of travel and tourism is done. The travel by air, sea and rail is also done. It is very good and safe option for travel.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50