Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Ceir



Ceir

Mae gallu gyrru yn rhoi rhyddid i ti i deithio i unrhyw le ar unrhyw adeg, er ei bod yn ddrud i ddysgu ac i brynu a rhedeg car.

Dysgu gyrru

  • Cyn y gallet ti ddechrau dysgu gyrru, rhaid i ti gael trwydded dros dro
  • Gallet ti wneud cais ar-lein am drwydded dros dro neu bigo un i fyny o'r Swyddfa Bost ac mi fydd yn costio £50
  • Mae gofynion penodol y mae'n rhaid i ti fodloni am drwydded dros dro, am fwy o wybodaeth cer i Gov.uk
  • Gall gwersi gyrru fod yn ddrud felly mae'n werth siopa o gwmpas neu wrando ar argymhellion gan deulu a ffrindiau. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion gyrru yn cynnig gostyngiadau os wyt yn prynu bloc o wersi ar yr un pryd
  • Gallet ti ymarfer dy yrru y tu allan i dy wersi ond mae'n rhaid i'r person sydd gyda thi fod dros 21 mlwydd oed, bod efo trwydded yrru am dros 3 blynedd a rhaid i'r ddau ohonoch chi gael eich yswirio i yrru'r cerbyd yr ydych ynddo
  • Mae angen i ti roi platiau L ar flaen a chefn unrhyw gar yr wyt yn dysgu gyrru ynddo
  • Pan fyddi di'n barod i fynd am dy drwydded yrru lawn, bydd gennyt ti dau brawf, un yn brawf ymarferol lle rwyt yn gyrru car, a'r llall yn brawf theori i asesu dy wybodaeth am reolau'r ffordd. Gallet brynu llyfrau prawf theori ond gallai fod yn werth gofyn o gwmpas os oes unrhyw ffrindiau neu deulu eisoes ag un ac a fyddent yn barod i ti ei ddefnyddio tra byddi di'n dysgu
  • Am ragor o wybodaeth ddefnyddiol am ddysgu gyrru a thrwyddedau, cer i Gov.uk
  • Gwyliau Gyrru

    • Os allet ti yrru, ffordd dda o fynd ar wyliau yw cymryd y car a mynd i ffwrdd. Bydd yn rhoi'r rhyddid i ti deithio pryd a lle fyddi di eisiau, ac i fynd oddi ar y llwybr os wyt yn dymuno
    • Yng Nghymru, mae cymaint o lefydd hardd i fynd ar wyliau y gallet ti yrru yn eithaf rhwydd, o arfordir Sir Benfro i fynyddoedd Eryriv
    • Gallet ti dal fferi i sawl rhan o Ewrop o'r DU neu yrru drwy Dwnnel y Sianel, ond rhaid i ti fod dros 18 oed i yrru mewn gwledydd Ewropeaidd felly mae'n werth gwirio cyn i ti fynd
    • Cofia fod llawer o wledydd eraill yn gyrru ar ochr dde'r ffordd
    • Gwna'n siŵr dy fod yn mynd a thrwydded gyrru cerdyn-llun a manylion cofrestru dy gar gyda thi, rhag ofn i ti cael dy stopio am unrhyw reswm gan yr heddlu
    • Os wyt yn gyrru yn Ewrop, bydd angen i ti wneud yn siŵr ei fod yn dod o dan dy bolisi yswiriant. Mae hefyd yn syniad da i gael yswiriant Ewropeaidd torri i lawr
    • Rhaid i gefn dy gar arddangos sticer GB (Prydain Fawr) a defnyddio sticeri 'deflector' ar y goleuadau
    • Ffeindia allan am reolau traffig yn y wlad yr wyt yn ymweld â hi cyn i ti fynd. Mae'n anghyfreithlon i redeg allan o betrol ar yr autobahn yn yr Almaen, ac yn yr Eidal, Sbaen, Portiwgal, Awstria a Croatia bydd rhaid i ti gario siaced adlewyrchol gyda thi rhag ofn bod dy gar yn torri i lawr

    Llogi Car

    Yn gyffredinol, mae’n rhaid i ti fod dros 21 mlwydd oed i logi car ym Mhrydain neu dramor. Mae llawer o gwmnïau ceir hefyd yn codi tâl uwch arnat ti os wyt o dan 25 mlwydd oed.

    Gall fod yn ddrud i logi car. Yn gyffredinol, mae’n rhaid i ti dalu fesul diwrnod. Bydd yn rhaid i ti dalu am unrhyw ddifrod i’r car, oni bai dy fod wedi talu am yswiriant ychwanegol. Ymchwilia i gwmnïau gwahanol er mwyn cael y fargen orau.,/p>

    Gallet ti hefyd roi cynnig ar logi cerbyd gwersylla - mae’n ffordd o deithio sy’n hwyl ac ni fydd gen ti unrhyw gostau llety ychwanegol.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50