Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Beicio



Beicio

Mae beicio yn ffordd wych o fod yn weithgar wrth ddarganfod dy amgylchoedd, mae'n ymarfer da ac ar wahân i gost y beic, yn costio dim byd.

  • Mae'n rhaid i ti wisgo helmed ddiogelwch sy'n ffitio'n iawn trwy'r amser wrth reidio beic rhag ofn i ti fod mewn damwain
  • Buddsodda mewn clo beic da a chadwyn
  • Mae’n syniad da sicrhau yswiriant beic, rhag ofn i unrhyw beth fynd o’i le â'th feic neu rhag ofn i rywun ei ddwyn
  • Mae Cymru’n lle gwych i fynd ar wyliau beicio. Mae yma ddigonedd o lwybrau beicio sy’n manteisio ar gefn gwlad hardd Cymru

Beicio Tramor

  • Os wyt yn beicio ar ffyrdd tramor, cofia fod y rhan fwyaf o wledydd yn gyrru ar ochr dde'r ffordd
  • Os wyt am fynd â’th feic gyda thi ar wyliau dramor, cysyllta â’r cwmni hedfan rwyt yn teithio gydag i wneud yn siŵr bod hyn yn bosib. Bydd rhai cwmnïau hedfan yn gofyn i ti ddadosod dy feic yn rhannol, felly mae’n well gwneud yn siŵr cyn i ti fynd i ffwrdd

Am fwy o wybodaeth, gweler yr adran ar Seiclo yn Pethau i'w Gwneud.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50