Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Dy Fyd Di » Cludiant » Ar Droed



Ar droed

Yn ogystal â bod yn ffordd o fynd o un lle i’r llall, mae cerdded yn dda i ti, yn costio dim byd ac yn ffordd grêt o ymarfer corff.

  • Os wyt yn byw mewn ardal wledig, yna efallai na fyddai cerdded i bob man yn opsiwn, ond ar gyfer y rhai mewn trefi a dinasoedd gall fod yn ffordd dda o deithio o gwmpas
  • Gwna'n siŵr dy fod yn cynllunio dy daith cyn i ti fynd ac yn gwybod dy lwybr
  • Gweithia allan yn fras pa mor hir y bydd yn cymryd i ti, mae hyn yn bwysig iawn os bydd angen i ti fod yn rhywle ar amser. Gallet gael syniad bras drwy deipio dy fan cychwyn a dy gyrchfan i fapiau google a gwasgu'r botwm ar gyfer y symbol cerdded
  • Dylet bob amser fod yn ymwybodol o dy ddiogelwch personol os wyt yn cerdded ar dy ben dy hun. Ar gyfer rhai awgrymiadau defnyddiol ar sut i aros yn ddiogel cer i'r adran Atal Troseddu yn y Gyfraith a Hawliau

Gwyliau Cerdded

  • Gall gwyliau cerdded fod yn ffordd wych o weld y wlad rwyt yn ymweld â hi. Mae teithio ar gyflymdra arafach yn golygu y bydd gen ti amser i weld mwy o fanylion gwlad, ac mae’n ffordd wych o gyfarfod pobl ar dy daith
  • Os wyt yn dibynnu ar gerdded i deithio o gwmpas, cer â phethau angenrheidiol yn unig gyda thi, gan osgoi mynd â phethau trwm. Mae'n werth buddsoddi mewn pâr o esgidiau cerdded cyffyrddus
  • Mae yna lawer o gwmnïau teithio sy’n trefnu gwyliau cerdded. Gall hyn fod yn ffordd wych o gadw’n heini a fforio’r awyr agored
  • Fel yn achos unrhyw wyliau, gwna rywfaint o ymchwil cyn i ti fynd i ffwrdd. Mae yna lawer o lyfrau a gwefannau sy’n cynnwys y wybodaeth sydd angen arnat ti

Ffawdheglu (Hitchhiking)

  • Os wyt mewn unrhyw amheuaeth ynglŷn â rhywun sy'n cynnig lifft i ti, paid â'i gymryd. Dilyna dy reddf a pheidia byth â rhoi dy hun mewn sefyllfa beryglus
  • Gall ffawdheglu fod yn beryglus gan nad wyt yn gwybod pwy fydd yn pigo ti i fyny . Os wyt yn mynd i ffawdheglu, gwna'n siŵr dy fod yn gwneud hynny mewn parau neu fel grŵp
  • Dylet bob amser ddweud wrth rywun ble rwyt yn ceisio dal lifft, a ble rwyt ti eisiau mynd. Os wyt yn derbyn lifft, mae'n syniad da i anfon testun i rywun gyda rhif plât y car fel eu bod yn gwybod ble rwyt ti
  • Mewn rhai gwledydd, mae'n sarhaus i ffawdheglu, gwna'n siŵr dy fod yn sicrhau na fyddet yn tramgwyddo dy westai posibl

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50