Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Coetiroedd a Bywyd Gwyllt
Yn yr Adran Hon
Coetiroedd
- Mae’n bwysig cofio bod rhaid i ni barchu’r anifeiliaid sy’n byw yn ein coetiroedd, a dylwn fod yn ofalus wrth fynd i’r goedwig a pheidio â gadael sbwriel nac aflonyddu’r ardal
- Mae tua 3,876 erw o goetir gwarchodedig yng Nghymru, yn ogystal â llawer o goedwigoedd eraill y gallwch fynd atynt
- Mae coetiroedd wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd, ond maen nhw bellach yn ffurfio dau-y-cant yn unig o dirlun Cymru ac mae angen i ni eu hamddiffyn
Bywyd Gwyllt
- Mae gan Gymru amrywiaeth eang o fywyd gwyllt y gallwch ddarganfod rhagor amdano - ceir llawer ohono mewn amgylchfyd coediog
- Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, gallwch gyfranogi at sawl prosiect mesur anifeiliaid a phlanhigion. Dylai fod rhagor o fanylion gan eich ymddiriedolaeth bywyd gwyllt leol ynglŷn â hyn
- Mae sawl rhywogaeth mewn perygl yng Nghymru. Rydym eisoes yn gyfarwydd â nifer ohonynt, fel y Barcud Coch, ond mae eraill yn llai enwog fel Cimwch yr Afon (Freshwater Crayfish)
- Mae Lili’r Wyddfa yn flodyn unigryw i Gymru, ac mae’n brin iawn. Fe’i ceir mewn ychydig o rannau o Barc Cenedlaethol Eryri, ac mae’r niferoedd yn gostwng
- Yng Nghymru, mae’r Wiwer Goch dan fygythiad, oherwydd bod eu cynefin naturiol yn cael ei ddifetha gan fod dynion yn adeiladu yn yr ardaloedd hynny, a chan fod fforestydd dail llydan wedi’u creu (lle mae coed fel y dderwen - sy’n colli’i dail yn yr Hydref - yn cael eu plannu) ac mae’r rheini’n fwy addas i’r wiwer lwyd