Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Gerddi
Yn yr Adran Hon
Gerddi
- Mae sawl ffordd o ddechrau garddio, hyd yn oed os nad oes plot gennych
- Mae cadw gerddi yn ffordd wych o helpu’r amgylchedd, gan eu bod yn annog bywyd gwyllt i ffynnu
- Yn ogystal â’r ffyrdd y gallwch gyfranogi a restrir isod, gofynnwch i’ch ffrindiau neu’ch teulu a oes angen arnynt gymorth yn eu gerddi nhw
- Os ydych yn ansicr ar y cychwyn, mae sawl llyfr ar gael y gallwch eu darllen cyn dechrau, a gallwch wneud cymaint ag y rydych eisiau
Dechrau arni
- Cofiwch fod yn ofalus os ydych chi’n defnyddio offer neu’n symud cyfarpar trwm
- Golchwch eich dwylo bob tro ar ôl garddio, yn enwedig os ydych chi wedi bod yn defnyddio cemegau
- Gallwch ddechrau garddio yn syth gydag ychydig o botiau a bag o gompost - cofiwch roi digon o ddŵr i’ch planhigion wedi i chi eu hail-blannu
- Gall llyfrau garddio fod o gymorth i chi wrth sefydlu eich gardd eich hun
Eich gardd eich hun
- Mae’n hawdd iawn tyfu eich planhigion eich hunain. Gallwch dyfu llysiau fel tomatos a phupurau mewn bagiau tyfu neu botiau mawr - does dim angen tŷ gwydr neu lain llysiau mawr i gael dechrau arni
- Mae bocsys ffenest yn ffordd syml o gychwyn gardd fach. Gallwch geisio tyfu unrhyw beth, o flodau fel mynawyd y bugail (’geraniums’) sy’n blodeuo bob blwyddyn, i ffrwythau fel mefus
- Mae perlysiau’n tyfu’n dda mewn potiau bach ac mae’n hawdd gofalu amdanynt - rhowch nhw yn y gegin fel y gallwch eu defnyddio’n hawdd wrth goginio
Lotments
- Os ydych chi’n teimlo’n barod i weithio ar eich llain eich hun, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a all roi gwybod i chi ar sut i ddechrau arni
- Os yw lotment yn ormod i chi ofalu drosto ar eich pen eich hun, gofynnwch i’ch ffrindiau a’ch teulu a hoffent roi help llaw, neu fe fedrech geisio cael lotment gyda’ch grŵp ieuenctid lleol hyd yn oed
Garddio yn y gymuned
- Beth am gychwyn eich cynllun garddio eich hun? Os oes darn o dir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn eich ardal chi, ac os credwch y gallwch ei wella, gallwch ofyn i’ch cyngor lleol ynglŷn â throi’r tir yn ardd