Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Amddiffyn Anifeiliaid
Yn yr Adran Hon
Diogelu Anifeiliaid
Lles Anifeiliaid
- Mae lles anifeiliaid yn bwysig iawn, a dylech drin anifeiliaid gyda pharch a charedigrwydd bob amser
- Roedd y DU yn un o wledydd cyntaf y byd i greu deddfwriaeth i amddiffyn anifeiliaid
- Mae gwneud i anifeiliaid ddioddef yn ddiangen yn anghyfreithlon dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid, ac mae cosbau difrifol ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid
- Os ydych chi’n gofalu am anifail, mae gennych ddyletswydd gofal drostynt sy’n golygu ei bod hi’n anghyfreithlon achosi niwed iddynt neu’n eu hesgeuluso
- Gall hyn olygu unrhyw beth, o frifo anifeiliaid yn gorfforol neu’n feddyliol, i adael anifeiliaid anwes mewn ceir poeth yn yr haf
Gofalu am Anifeiliaid
- Os byddwch yn gweld anifail sy’n wedi’i niweidio - boed yn anifal gwyllt neu’n anifail domestig - mae’n bwysig cysylltu â sefydliad perthnasol neu’ch milfeddyg lleol a fydd yn gwybod sut i drin y sefyllfa
- Os ydynt mewn ofn neu wedi’u brifo, bydd anifeiliaid yn ceisio amddiffyn eu hunain yn aml, felly byddwch yn ofalus wrth fynd atyn nhw. Cofiwch, dydy anifeiliaid gwyllt ddim yn gyfarwydd â bod yn agos at ddynion, felly byddwch yn wyliadwrus
- Mae angen gofal arbenigol ar anifeiliaid, ac mae nifer o ganolfannau ledled Cymru sy’n gofalu am anifeiliaid sy’n sâl neu sydd wedi’u gadael
- Yn aml mae canolfannau o’r fath yn chwilio am gymorth gwirfoddol, ac os ydych eisiau cyfranogi, ceisiwch gysylltu â’ch gwarchodfa anifeiliaid leol. Mae’r canolfannau hyn yn croesawu gwirfoddolwyr fel rheol, ond mae cyfyngiadau o ran oed gan rai ohonynt