Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Swau a Pharciau Saffari



Sŵau a Pharciau Saffari

Sŵau

  • Sŵau enwocaf y DU yw Sŵ Caeredin a Sŵ Llundain, ond mae llawer o sŵau llai ledled y wlad y gallet fynd iddynt
  • Mae’n rhaid talu i fynd i mewn i sŵ, fel arfer rhwng £5.00 a £20.00
  • Cedwir anifeiliaid sŵ mewn ardaloedd sydd wedi’u creu’n arbennig i fod yn debyg i’w cynefin naturiol, fel y gallet weld sut y byddant yn bihafio pe byddent yn byw’n wyllt
  • Yn aml gallet ddarganfod pa bethau y mae anifeiliaid yn eu bwyta os ydwyt yn mynd i sŵ amser bwydo
  • Fel arfer gall weld anifeiliaid amrywiol mewn sŵ, o greaduriaid egsotig fel crocodeiliaid ac aligatoriaid i bengwiniaid
  • Rhaid bod gan sŵau drwydded arbennig i gadw anifeiliaid. Cânt eu harchwilio’n aml er mwyn sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael eu trin yn iawn a’u cadw mewn cyflwr lle y gallant ymddwyn fel y byddant yn ymddwyn yn naturiol pe byddent yn byw’n wyllt
  • Mae sawl person yn gwrthwynebu cadw anifeiliaid mewn sŵau; mae rhai’n credu na ddylai pobl gymryd anifeiliaid o’u cartrefi naturiol, a’i bod hi’n greulon iawn cadw anifeiliaid mewn llefydd cyfyng
  • Fodd bynnag, mae sŵau’n cyfrannu at brosiectau cadwraeth, ac fe all bridio anifeiliaid mewn sŵau eu hamddiffyn rhag mynd yn ddiflanedig

Parciau Saffari

  • Fel arfer lleolir parciau saffari yng nghefn gwlad lle mae llawer o dir. Mae gan yr anifeiliaid le i grwydro, ac mae ganddynt fwy o le nag y bydd ganddyn nhw mewn sŵ
  • Byddet yn gyrru trwy barc saffari mewn car fel arfer, ac yn edrych ar yr anifeiliaid wrth iddynt grwydro heibio
  • Mae parciau saffari yn tueddu i gadw anifeiliaid mwy o faint nag y mae sŵau gan fod mwy o le ganddynt i grwydro. Mae’r anifeiliaid hyn yn cynnwys jiraffod, llewod ac eliffantod
  • Weithiau bydd gan barciau saffari weithgareddau eraill fel tai crand y gallet edrych y tu fewn iddynt a gweithgareddau antur

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50