Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Anifeiliaid Fferm
Yn yr Adran Hon
Anifeiliaid Fferm
- Anifeiliaid fferm yw unrhyw anifeiliaid sy’n cael eu cadw er mwyn eu defnyddio neu i wneud elw ohonynt
- Yr anifeiliaid fferm fwyaf cyffredin yw buchod, moch, defaid, ieir, hwyaid a cheffylau
- Mae Cymru’n enwog am ffermio ac mae yma wartheg a defaid y mae cig ardderchog yn dod ohonynt
- Mae anifeiliaid gwahanol yn byw ar wahanol fathau o fferm. Er enghraifft, mae ffermydd llaeth fel arfer yn cadw buchod i gynhyrchu llaeth yn unig
- Am ragor o wybodaeth, gweler adran Ffermio ac Amaethyddiaeth y wefan
Ffermydd Trefol
- Mae ffermydd trefol yn fwyfwy cyffredin. Mae’r rhain yn ffermydd o fewn dinasoedd mewn mannau llai na ffermydd traddodiadol yn y wlad
- Yn aml, os wyt yn talu ffi fach, fe allet ti ymweld â fferm drefol er mwyn gweld y ffordd y maen nhw’n gweithio ac i ddysgu am anifeiliaid. Mae anifeiliaid ffermydd trefol yr un peth ag anifeiliaid ffermydd traddodiadol
- Yng Nghymru, mae ffermydd trefol yng Nghaerdydd, Abertawe a Chwmbrân