Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Rhywogaethau mewn Perygl
Yn yr Adran Hon
Rhywogaethau mewn Perygl
- Mae rhywogaeth mewn perygl yn un sydd â niferoedd mor fach ei bod hi mewn perygl o fynd yn ddiflanedig
- Mae rhywogaethau anifeiliaid mewn perygl oherwydd newidiadau i’w amgylchfyd naturiol, y mae bodau dynol yn eu hachosi yn aml, trwy greu llygredd, hela neu ddatblygiadau trefol
- Mae’r rhan fwyaf o rywogaethau mewn perygl mewn cyfandiroedd fel Affrica neu Dde America, ond mae rhywogaethau mewn perygl ym Mhrydain hefyd
- Mae’n hollbwysig amddiffyn rhywogaethau mewn perygl gan eu bod yn rhan sylfaenol o ecosystem y ddaear (am ragor o wybodaeth, ewch i adran Boamrywiaeth)
- Mae rhai rhywogaethau a oedd yn agos at fynd yn ddiflanedig wedi cael eu hachub trwy raglen fridio yn y gwyllt yn ogystal â mewn sŵau ac ati
- Gall ymgyrchoedd mawr amlwg i amddiffyn anifeiliaid arbennig fod yn llwyddiannus. Achubwyd eliffant Affricanaidd oherwydd crëwyd amodau hela llymach a chafodd herwhelwyr anghyfreithlon eu rheoli
- Fodd bynnag mae nifer fwy o rywogaethau sydd yn parhau i fod mewn perygl, a rhaid gwneud rhagor i atal yr anifeiliaid hyn rhag diflannu
Amddiffyn rhywogaethau mewn perygl
- Gallwch helpu amddiffyn rhywogaethau mewn perygl mewn sawl ffordd
- Y ffordd fwyaf syml yw peidio â chefnogi masnachau sy’n lladd rhywogaethau mewn perygl, er enghraifft, trwy beidio â phrynu ifori na chragen crwban
- Gallwch ddod yn aelod o grwpiau gweithredu fel Born Free a WWF sy’n ymgyrchu i amddiffyn rhywogaethau mewn perygl
- Mae mabwysiadu anifail yn ffordd dda o amddiffyn rhywogaethau mewn perygl. Am ffi fach, gallwch ’fabwysiadu’ anifail mewn perygl trwy elusen a bydd yr arian rydych yn ei roi yn mynd tuag at ddiogelu’r rhywogaeth arbennig honno