Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Anifeiliaid Anwes



Anifeiliaid Anwes

  • Mae gan lawer o bobl ifanc anifeiliaid yn eu cartrefi ac mae’n ffordd dda i ddysgu sut i drin a gofalu am greaduriaid
  • Mae angen llawer o ofal a sylw ar anifeiliaid anwes felly rhaid i chi sicrhau bod gennych ddigon o amser i ofalu amdanyn nhw cyn dewis eu cael
  • Mae angen llawer o amser ac egni i ofalu am gi neu geffyl, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried hyn cyn penderfynu pa anifail rydych am ei gael
  • Fe ddylech hefyd wneud yn siŵr bod y bobl eraill yn eich tŷ yn hapus i chi gadw anifail anwes gan fod angen llawer o le ar rai anifeiliaid ac mae rhai yn gwneud sŵn mawr
  • Yr anifeiliaid anwes mwyaf cyffredin yw cathod, cŵn, bochdewion (hamsters), pysgod aur, cwningod ac adar er bod rhai pobl yn cadw anifeiliaid mwy egsotig fel madfallod (’lizards’) neu barotiaid
  • Mae deddfau llym yn bodoli ynghylch dod ag anifeiliaid i mewn i Brydain er mwyn eu gwerthu fel anifeiliaid anwes. Os ydych chi’n prynu anifail egsotig rhaid sicrhau bod ganddo’r holl ddogfennaeth angenrheidiol, a gwneud i siŵr na chafodd ei werthu’n anghyfreithlon
  • Hefyd, mae’n werth ystyried ei bod hi’n ddrytach cadw anifeiliaid sy’n fwy egsotig. Mae angen llawer o le i symud ar ymlusgiaid (’reptiles’), yn ogystal â lle i fyw sydd wedi’i addasu i weddu i’w hanghenion, a diet arbennig iawn
  • Dylech ystyried costau cadw unrhyw anifail anwes. Yn yr un modd â phobl, bydd y rhan fwyaf o anifeiliaid yn mynd yn sâl ar ryw adeg a bydd rhaid iddynt fynd at y milfeddyg, a all fodd yn ddrud 
  • Hefyd, dylech ystyried pris bwyd eich anifail anwes cyn penderfynu ei gael
  • Os ydych yn ystyried cael anifail anwes dylech fynd at loches anifeiliaid fel yr RSPCA, neu siop anifeiliaid anwes parchus - gofynnwch i filfeddyg os nad ydych chi’n siŵr. Bydd gwneud hyn yn sicrhau bod eich anifail anwes yn iach a’i fod wedi cael ei drin yn iawn

Related Media

Useful Links

1 CommentPostiwch sylw

Rhoddwyd sylw 42 mis yn ôl - 12th April 2013 - 09:14am

When walking a dog, make sure he does not pull ahead of you, pull him back untill he gets used to it. Give him a treat as a reward when he does something right. Make him/her sit when waiting for something, like waiting for trafic lights or letting another dog go past.

hope this was helpful :-)

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50