Gwybodaeth » Amgylchedd » Planhigion ac Anifeiliaid » Fforestydd a Fforestydd Glaw
Yn yr Adran Hon
Fforestydd
- Gallwch ymweld â’r rhan fwyaf o fforestydd Cymru am ddim
- Mae’n braf cerdded, beicio, bwyta picnic neu ymlacio a mwynhau’ r awyr agored mewn fforestydd
- Mae gan y Comisiwn Coedwigaeth wybodaeth ar weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn fforestydd ledled Cymru
- Mae llawer o ganolfannau ymwelwyr dros Gymru lle y gallwch ddarganfod rhagor am weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu trefnu’n arbennig ar gyfer pobl ifanc
Fforestydd Glaw
- Mae fforestydd glaw yn fforestydd sy’n tyfu mewn ardaloedd lle mae’ n glawio’r mwyaf
- Mae fforestydd glaw yn ffurfio dim ond darn bach o arwynebedd y ddaear er mai dros hanner o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid y byd sy’n byw ynddynt
- Lleolir fforestydd glaw yng Nghanolbarth America, yr Amason, Affrica, De Asia ac Awstralasia. Mae hinsawdd wahanol gan bob fforest law
- Maent yn ffynhonnellau hollbwysig i’n planed ni. Maen nhw’n creu ocsigen i ni anadlu, ac mae ecosystemau cymhleth yn bodoli ynddynt yn ogystal â miliynau o blanhigion ac anifeiliaid
- Mae fforestydd glaw hefyd yn ailgylchu glaw, yn amddiffyn pridd, yn ailgylchu maetholion ac yn storio carbon
- Mae brodorion fforestydd glaw yn cael popeth sydd eu hangen arnynt o’u tir a’u coed, fel lle i fyw, bwyd a moddion
- Nid yw llawer o fforestydd glaw’r byd wedi cael eu harchwilio hyd yn hyn ond mae arbenigwyr yn honni bod miloedd o blanhigion ac anifeiliaid i’w darganfod yno
Diogelu fforestydd glaw
- Yn wreiddiol, roedd fforestydd glaw yn ffurfio 15 y cant o dir y ddaear. Yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf mae’r fforest law wedi lleihau o 7.1 biliwn erw i lai na 3.5 biliwn erw
- Mae mwy na 30 miliwn erw o fforestydd trofannol yn cael eu distrywio bob blwyddyn. Os bydd hyn yn parhau ar yr un raddfa, fydd ddim fforest law i gael erbyn 2050
- ’Datgoedwigo’ yw’r enw ar ddistrywio’r fforest law. Mae pobl yn torri’r coed am sawl rheswm, gan gynnwys:
- Clirio lle i ffermio
- Creu pethau pren o’r coed
- Adeiladu ffyrdd
- Ar gyfer mwyngloddio ac olew
- Mae datgoedwigo yn bygwth effeithio ar hinsawdd y byd. Trwy losgi coed mae llawer o garbon deuocsid yn cael ei allyrru i’r atmosffer.
- Mae carbon deuocsid yn cadw gwres yr haul i mewn ac nid yw’n gadael i’r gwres ddianc sy’n golygu y bydd tymheredd y byd yn cynyddu