Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Cronfa Dreftadaeth y Loteri
- Sefydlwyd Cronfa Dreftadaeth y Loteri gan y Senedd yn 1994 i roi grantiau i amrediad eang o brosiectau sy’n ymwneud â threftadaeth naturiol y Deyrnas Unedig
- Ariannir Cronfa Dreftadaeth y Loteri gan y Loteri Genedlaethol. Ar hyn o bryd, mae 28c o bob £1 sy’n cael ei gwario ar docyn loteri yn mynd i Gronfa Dreftadaeth y Loteri
- Mae’r grantiau a roddir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn cael eu dyrannu’n gyfartal rhwng pum categori:
- Y Celfyddydau
- Elusennau
- Iechyd, addysg a’r amgylchedd
- Treftadaeth
- Chwaraeon
- Mae grantiau’n amrywio o £500 i filiynau, yn dibynnu ar faint y prosiect
- Gall llawer o bobl wneud cais am grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri o grwpiau cymunedol bach i eglwysi a chynghorau, ar yr amod bod y prosiect yn ymwneud â chadwraeth treftadaeth, neu’n galluogi’r cyhoedd i gael mynediad gwell i dreftadaeth
- Mae prosiectau yng Nghymru sydd wedi elwa ar nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn cynnwys Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, Prifysgol Aberystwyth a chanol tref Bae Colwyn