Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Llifogydd
- Gall effeithiau llifogydd fod yn hynod o beryglus. Peidiwch byth â rhoi eich hunan mewn sefyllfa beryglus ger llifogydd
- Mae llifogydd yn digwydd ar ôl cyfnodau o law trwm pan na all system dreinio naturiol y tir ymdopi rhagor. Mae afonydd yn llifo dros eu glannau a gall dŵr gyrraedd cartrefi a busnesau ac achosi difrod
- Bydd chwe modfedd o ddŵr cyflym eich bwrw oddi ar eich traed, bydd pedair modfedd yn distrywio eich carped, a bydd eich car yn arnofio ar ddwy droedfedd o ddŵr
- Mae llawer o arbenigwyr yn credu y bydd llifogydd yn cynyddu yn y dyfodol wrth i newidiadau yn yr hinsawdd effeithiau ar faint o law rydym ni’n ei gael. Mae llifogydd mawr sydd ond wedi digwydd unwaith mewn canrif yn gallu digwydd bob deg i 25 o flynyddoedd erbyn hyn
- Mae Cymru wedi’i heffeithio gan lifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae llawer wedi cael sylw ym mhenawdau’r newyddion. Yn 2000 gwnaeth llifogydd effeithio ar ryw 10,000 o gartrefi yng Nghymru a Lloegr
- Gall bagiau o dywod atal niwed helaeth i’ch cartref. Yn 2000, fe wnaethon nhw ddiogelu mwy na 37,000 o gartrefi rhag y llifogydd
- Mae pum miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr mewn perygl o lifogydd bob blwyddyn - cartrefi newydd sydd wedi’u hadeiladu ar orlifdiroedd neu ar hyd yr arfordir yw’r rhai tebycaf o gael eu heffeithio
- Os ydych yn meddwl y gallai eich cartref chi fod mewn perygl o lifogydd, mae rhai camau y gallwch eu cymryd i baratoi - gwelwch wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, neu ffoniwch Floodline i gael gwybodaeth am y peryglon