Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Ffermio ac Amaethyddiaeth

  • Mae tir Cymru’n gyfoethog ac yn ffrwythlon; mae ffermio bob amser wedi bod yn rhan allweddol o fywyd ar hyd y canrifoedd
  • Byddai tirwedd Cymru’n wahanol iawn heb amaethyddiaeth. Mae ffermwyr yn helpu i gynnal a chadw ein cefn gwlad; gwrychoedd, caeau a chynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt

Mathau o Ffermydd

  • Ffermydd da byw
    • Ffermydd defaid yw’r rhai mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r cig oen sy’n cael ei fwyta ym Mhrydain yn dod o Gymru
    • Mae ffermio defaid yn gweddu i dirwedd garw Cymru, oherwydd bod llawer o fridiau yn gallu goroesi mewn amgylchiadau eithaf garw
    • Mae buchod yn cael ffermio am ddau reswm - am eu llaeth (ar gyfer caws, iogwrt a chynhyrchion llaeth eraill) neu ar gyfer cig eidion, lle mae buchod yn cael eu bridio ar gyfer eu cig
    • Mae moch yn cael eu ffermio ar gyfer porc yn y wlad hon hefyd
  • Ffermio âr
    • Mae ffermwyr âr yn tyfu gwenith, ffrwythau a llysiau
    • Mae cnydau yn arallgyfeirio i blanhigion fel olew had rêp sydd â lliw melyn amlwg
  • Ffermydd trefol
    • Os nad ydych yn byw yn y wlad, efallai y byddwch eisiau ymweld â fferm drefol
    • Mae gan lawer o’r ffermydd hyn anifeiliaid y gallwch eu gweld yn agos - efallai y byddwch yn gallu bwydo oen sydd newydd ei eni os ydych yn ymweld â’r fferm yn y Gwanwyn
  • Am fwy o wybodaeth, gwelwch yr adran ANIFEILIAID FFERM ar y wefan

Ffermio heddiw

  • Erbyn hyn, mae amaethyddiaeth yn ddiwydiant sy’n llawer llai nag a fu, ac mae wedi dirywio’n fawr yn ystod y ganrif ddiwethaf
  • Mae pwysigrwydd amaethyddiaeth i’n heconomi wedi newid yn bennaf oherwydd yn hytrach na thyfu ein bwyd ein hunain, rydym ni bellach yn mewnforio llawer o fwyd o dramor. Mae hyn yn golygu bod bwyd yn rhatach, ond byddai’n broblem pebai rhywbeth yn digwydd i effeithio ar y mewnforion hyn
  • Mae amaethyddiaeth yn addasu i fodloni newidiadau y mae prynwyr yn gofyn amdanyn nhw; mae llawer o ffermwyr yn newid i dyfu cynnyrch organig, neu’n ffurfio eu marchnadoedd eu hunain sy’n boblogaidd gyda phrynwyr y dyddiau hyn
  • Mae’r galw am gynnyrch lleol yn cynyddu trwy’r amser. Mae gan ffermwyr Cymru enw da am gynhyrchu bwyd o safon uchel iawn, a bydd siopwyr yn talu mwy am gig fel cig oen sydd wedi dod o fferm leol
  • Os oes pryderon gennych ynglŷn â phrynu bwyd lleol, edrychwch am arwydd y Tractor Bach Coch sy’n gwarantu bod y bwyd wedi’i gynhyrchu ym Mhrydain

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50