Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » CADW a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Yn yr Adran Hon
Cadw
- Cadw yw isadran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ei nod yw hybu cadwraeth a gwerthfawrogiad o amgylchedd hanesyddol Cymru
- Mae Cadw yn gyfrifol am gyflwyno a hyrwyddo treftadaeth Cymru, ac mae ei ddyletswyddau’n cynnwys:
- Sicrhau cadwraeth henebion ac adeiladau hanesyddol
- Grantiau sy’n helpu i atgyweirio ac adfer henebion ac adeiladau hanesyddol
- Rheoli’r 127 o henebion hynafol yng Nghymru
- Ceir prosiectau Cadw ar hyd a lled Cymru a gallwch ymweld â’r rhain yn rhad ac am ddim
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio i adfer a diogelu’r arfordir, cefn gwlad ac adeiladau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn wahanol i Cadw gan mai elusen yw hi, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar roddion, ffioedd aelodaeth a refeniw am arian a geir trwy ei mentrau masnachol
- Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y 19eg Ganrif i ddiogelu adeiladau, parciau ac arfordir Prydain rhag effeithiau trefoli a diwydiannu