Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Bioamrywiaeth
- Mae’r gair ’bioamrywiaeth’ yn cyfeirio at yr amrediad eang o fywyd ar y ddaear, a’r berthynas gymhleth sy’n bodoli rhwng popeth sy’n fyw
- Mae’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid ar y ddaear yn anghygoel. Mae miloedd o rywogaethau yn cael eu darganfod bob blwyddyn - ond amcangyfrifir y bydd 40 i 100 rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid yn diflannu bob dydd
- Mae popeth a wnawn yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â bioamrywiaeth y blaned, o gael aer a dŵr i wneud plastigau a gyrru ceir
- Rydym yn defnyddio adnoddau’r ddaear yn gyflymach nag y gall y blaned eu hailosod, sy’n niweidio bioamrywiaeth y ddaear. Mae ffermio dwys, llygru afonydd a’r môr a dinistrio’r fforestydd glaw ac anialdiroedd yn niweidio cydbwysedd naturiol y ddaear
- Yng Ngogledd America a Gorllewin Ewrop mae pobl yn defnyddio bron i bedair gwaith mwy o adnoddau’r ddaear na gweddill y byd at ei gilydd
- Os ydym ni’n parhau yn yr un modd, byddwn ni’n defnyddio mwy o adnoddau nag sydd ar gael ar y ddaear, ac ni fydd y blaned yn gallu cynnal bywyd fel y mae
- Gallwch helpu trwy newid pethau syml ynglŷn â’r ffordd rydych yn byw er mwyn ceisio lleihau faint o adnoddau’r ddaear rydym yn eu defnyddio
- Dewiswch fwyd organig. Mae hyn yn golygu bod y cnydau wedi’u tyfu mewn ffordd gynaliadwy - nid yw’r tir wedi’i drin yn rhy ddwys, ac nid yw maetholion naturiol y pridd yn cael eu disbyddu
- Meddyliwch am y pethau rydych yn eu taflu i ffwrdd. Mae safleoedd tirlenwi yn cynnwys 10 y cant o wastraff bwyd, ac mae miliwn o adar a 100,000 o anifeiliaid môr yn cael eu lladd gan blastig gwastraff bob blwyddyn