Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
Yn yr Adran Hon
- Mae Cymru’n wlad sy’n eithriadol o brydferth, ac mae rhai lleoedd wedi’u dynodi yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) er mwyn cydnabod hyn, i sicrhau bod harddwch naturiol y dirwedd yn cael ei diogelu a’i gwella
- Ceir llawer o resymau pam y mae ardal wedi’i dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol - o amrywiaeth ei phlanhigion a’i hanifeiliaid i bwysigrwydd hanesyddol, neu oherwydd ei golygfeydd trawiadol
- Mae unrhyw ddatblygiadau, fel tai newydd neu ddiwydiant wedi’u cyfyngu yn yr ardaloedd hyn
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru
- Dyffryn Gwy - mae’r ardal hon yn cynnwys rhannau o Gymru a Lloegr, yn dilyn Afon Gwy ar hyd y dyffryn calchfaen prydferth trwy leoedd fel Abaty Tyndyrn
- Bryniau Clwyd - mae’r bryniau hyn, sydd i’w cael yng ngogledd ddwyrain Cymru yn cynnwys llawer o safleoedd archeolegol fel caerau o’r Oes Haearn ar gopâu’r bryniau, a rhannau o Glawdd Offa
- Gŵyr - mae’r arfordir enwog ger Abertawe yn denu llawer iawn o ymwelwyr, ond mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o dirweddau fel corstir, tir fferm eang a choetir. Mae llawer o ardaloedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hefyd. Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf ym Mhrydain i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
- Llŷn - harddwch digyffwrdd Pen Llŷn yw’r hyn sy’n ei dynodi’n ardal eithriadol. Dyma le mae tir Eryri yn cyrraedd y môr. Mae hefyd yn cynnwys Ynys Enlli sy’n warchodfa adar môr ac sy’n gartref i’r morlo llwyd
- Ynys Môn - mae bron i bob rhan o arfordir Môn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae amrywiaeth mawr iawn o fywyd gwyllt yn byw yn nhirweddau amrywiol Ynys Môn, o’r clogwynau dramatig i rostiroedd morol a fflatiau llaid