Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Parciau Cenedlaethol

  • Pasiwyd Deddf Seneddol yn 1949 i greu Parciau Cenedlaethol er mwyn diogelu ardaloedd hardd yng nghefn gwlad fel y gall y cyhoedd eu mwynhau
  • Mae gan y Parciau Cenedlaethol ddau bwrpas - i alluogi pobl i weld a gwerthfawrogi harddwch y wlad, ond yn bwysicaf oll, i ddiogelu ei harddwch naturiol
  • Yn ogystal â bod yn ardaloedd i’r cyhoedd ymweld â nhw, mae llawer o bobl yn byw ac yn gweithio mewn Parciau Cenedlaethol. Yn aml, twristiaeth yw’r prif ddiwydiant, ac mae llawer o bobl yn dibynnu ar y Parciau am eu bywoliaeth

Parciau Cenedlaethol yng Nghymru

Eryri

  • Mae’n debyg mai Eryri yw’r enwocaf o’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, oherwydd ei fod yn cynnwys yr Wyddfa, sef y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr (1085m)
  • Mae 26,000 o bobl yn byw ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae 65% ohonyn nhw’n siarad Cymraeg
  • Siapiwyd cymoedd a dyffrynnoedd Eryri gan rewlifau siâp, a hyn sy’n gyfrifol am ei dirwedd ddramatig. Oherwydd hyn, mae’r parc yn llawn llynnoedd ac afonydd
  • Mae aberoedd ac arfordir yn ffurfio rhan o’r parc, yn ogystal â Chadair Idris, sy’n gopa enwog arall

Bannau Brycheiniog

  • Mae’r Bannau yn gwahanu cefn gwlad wledig Canolbarth Cymru o’r De diwydiannol
  • Mae pobl wedi bod yn byw ym Mannau Brycheiniog ers mwy na 5,000 o flynyddoedd. Gellir gweld cerrig sefyll, carneddau ac anheddau hynafol ar hyd a lled yr ardal

Arfordir Sir Benfro

  • Ac yntau’n arfordir prydferthaf Cymru o bosib, arfordir Sir Benfro yw’r unig Barc Cenedlaethol arfordirol yng Nghymru
  • Mae Sir Benfro yn ardal bwysig iawn o ran bywyd gwyllt ac mae’n cynnwys un o’r tair Gwarchodfa Natur Forol yn y DU. Mae’n gartref i adar môr, mamaliaid a phlanhigion di-rif, ac mae llawer o’r rhain yn unigryw i Sir Benfro
  • Bu Dewi Sant, sef sant nawdd Cymru, yn byw yn Sir Benfro, a gallwch ymweld â’r mynachdy a sefydlodd yn ninas leiaf Cymru, Tŷ Ddewi
  • Mae’r ardal hon wedi’i siapio gan ddiwydiant hefyd, o’r 19eg ganrif pan oedd mwyngloddio yn hanfodol i’r ardal. Gellir gweld tystiolaeth mewn melinau, pyllau a safleoedd diwydiannol ar hyd yr arfordir

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50