Gwybodaeth » Amgylchedd » Cadwraeth a'r Amgylchedd » Newid yn yr Hinsawdd
Yn yr Adran Hon
- Mae newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth a all ymddangos ymhell i ffwrdd o’n bywyd pob dydd, ond mae’n rhywbeth sy’n effeithio ar bawb, ac mae’n digwydd nawr
Beth sy’n digwydd?
- Mae llawer o effeithiau newid hinsoddol yn digwydd nawr - o danau fforest i lifogydd sydyn, corwyntoedd a thwf anialdiroedd, a bydd y tywydd yn dod yn fwy eithafol yn gyffredinol yn y dyfodol
- Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd y tymheredd yn codi rhwng 2°C a 5°C yn ystod y ganrif nesaf
- Mae codiad yn y tymheredd yn trawsnewid ein tirwedd - mae anialwch y Sahara yn tyfu 1.5 miliwn o hectarau y flwyddyn
- Gall anifeiliaid a phlanhigion, sy’n methu ag addasu’n ddigon cyflym i’w hamgylchedd cyfnewidiol, gael eu heffeithio gan dymheredd uwch. Mae rhai gwyddonwyr yn meddwl y bydd rhai rhywogaethau’n diflannu’n gyfan gwbl
- Bydd diffygion dŵr led led y DU yn golygu y bydd rhaid ailasesu faint o ddŵr rydym ni’n ei ddefnyddio - mae’n debyg y bydd gwaharddiadau pibelli dŵr a rhybuddiadau sychder yn dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol
- Bydd y llifogydd, sydd wedi effeithio ar y wlad hon dros y blynyddoedd diwethaf, fel yr un yn Boscastle yng Nghernyw yn digwydd yn amlach wrth i law ddod yn fwy eithafol. Bydd llifogydd sydyn a thirlithriadau yn dod heb fawr o rybudd ac yn bygwth tai a busnesau
Pam mae hyn yn digwydd?
- Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod y newidiadau hyn yn digwydd oherwydd gweithgareddau dynol, yn cynnwys llosgi tanwyddau ffosil, sy’n cynnyddu nwyon tŷ gwydr
- Mae’r effaith tŷ gwydr yn cyfeirio at yr haenau o nwyon sy’n ffurfio’r haen amddiffynnol o gwmpas y ddaear. Heb y nwyon hyn, ni allai bywyd ar y ddaear barhau, ond wrth i ollyngiadau carbon diocsid gynyddu, mae’r haen wedi dod yn fwy trwchus, sy’n dal mwy o ynni’r haul ac yn peri i dymheredd y byd godi
Beth allwch chi ei wneud?
- Mae llawer o gamau syml y gallwch eu cymryd i helpu i stopio effeithiau newid hinsoddol. Efallai y byddwch yn teimlo na allwch wneud llawer i helpu ar eich pen eich hun, ond os yw pawb yn gwneud ychydig, byddwn ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth
- Cefnogwch gynlluniau ailgylchu yn eich ardal chi - gallwch ailgylchu gwahanol fathau o bapur, plastig, tuniau a chardbord
- A allwch chi ddefnyddio llai o ynni? Os ydych yn gadael plwg eich ffôn wedi’i blygo mewn, bydd yn defnyddio cymaint o drydan â phan rydych yn siarsio’ch ffôn. Cofiwch ddiffodd y goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell, a diffoddwch y teledu a’r stereo yn hytrach nag eu gadael ar ’standby’. Bydd y pethau hyn i gyd yn arbed ynni
- Os ydych yn teimlo na allwch wneud llawer i newid pethau ar eich pen eich hun, gallwch roi pwysau ar y bobl allai wneud gwahaniaeth. Os ydych yn teimlo’n gryf dros unrhyw fater, nid yn unig newid hinsoddol, gallwch ysgrifennu at eich Aelod Seneddol i ofyn a allen nhw wneud rhywbeth amdano fe