Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Gigs, Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau



Gigs, Cyngherddau, Digwyddiadau a Gwyliau

Mae cyngherddau, digwyddiadau a gwyliau yn ffordd wych o gael rhywbeth ti'n ei garu o dy amgylch, a gallan nhw gynnwys cerddoriaeth byw, actio, comedi a’r celfyddydau.

Gigs a Chyngherddau

Gig neu gyngerdd ydy pan fydd cerddorion yn chwarae o flaen cynulleidfa. Un o'r cyngherddau enwocaf ym Mhrydain yw’r Proms yn yr Albert Hall yn Llundain. Gall glywed pob math o gerddoriaeth yn y neuadd, gan gynnwys:

  • Clasurol
  • Pop
  • Roc
  • Gwerin
  • Jazz
  • Sioeau cerdd
  • Byd

Digwyddiadau

Mae digwyddiad fel arfer yn sioe neu'n gasgliad sydd yn dathlu rhywbeth fel bwyd, diod, diwylliant, iaith a cherddoriaeth - gall bron unrhyw beth fod yn ffocws digwyddiad.

Gall digwyddiadau bara am ddiwrnod, neu am sawl diwrnod, er y byddi di’n tueddu i ymweld â nhw am un diwrnod.

Ymhlith enghreifftiau o ddigwyddiadau blynyddol yng Nghymru mae:

  • Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru
  • Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
  • Mardi Gras Caerdydd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn newid lleoliad bob blwyddyn, yn newid rhwng y gogledd a’r de bob blwyddyn.

Gwyliau

Mae gwyliau yn cynnwys cyfres o berfformiadau, a gan y gall bron unrhyw beth fod yn destun achlysur, mae’n sicr bod yna ŵyl y byddi di’n ei fwynhau. Byddan nhw fel arfer yn para sawl diwrnod, sy’n golygu y gallet ti weithiau wersylla dros nos.

Gan fod gwyliau’n rhoi llwyfan i amrywiaeth o berfformwyr, gallan nhw fod yn ffordd wych o weld dy hoff berfformwyr a rhai nad wyt ti wedi clywed amdanyn nhw eto. Fel arfer, mae yna wyliau sydd at ddant y rhan fwyaf o bobl.

Dau o’r gwyliau mwyaf enwog yn y DU yw gŵyl gerdd Glastonbury a gŵyl ymylol Caeredin, er bod yna lawer ohonyn nhw’n agosach at gartref, gan gynnwys:

  • Gŵyl Haf Caerdydd
  • Gŵyl Lenyddiaeth y Gelli
  • Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
  • Gŵyl Jazz Aberhonddu

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50