Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Amguddfeydd ac Orielau Celf
Yn yr Adran Hon
Amguddfeydd ac Orielau Celf
Mae amgueddfeydd ac orielau celf yn lleoedd poblogaidd i fynd iddyn nhw ar deithiau ysgol. Ond mae posib ymweld ag amgueddfeydd ac orielau celf y tu allan i oriau ysgol yn dy amser hamdden ac ar y penwythnosau. Mae pob amgueddfa ac oriel celf yng Nghymru yn rhad ac am ddim i fynd i mewn.
Gall amgueddfeydd fod yn lleoedd gwych i ddysgu mwy am bwnc penodol. Bydd gan lawer o amgueddfeydd wahanol arddangosfeydd y byddan nhw’n eu newid gydol y flwyddyn. Mae yna lawer o wahanol fathau o amgueddfeydd yng Nghymru i arddangos gwahanol bethau: celf, cerddoriaeth, llenyddiaeth ac arteffactau hanesyddol mewn meysydd sy’n amrywio o fwyngloddio glo i gynhyrchu gwlân.
Yn Llundain mae amgueddfeydd ac orielau celf genedlaethol y DU. Yn eu plith mae:
- The National History Museum
- The Tate Modern Gallery
- The National Portrait Gallery
- The London Transport Museum
Mae’r rhan fwyaf o amgueddfeydd ac orielau yn lleoedd tawel, felly fe ddylet ti ofalu dy fod yn ymwybodol o’r rheiny sydd o amgylch.