Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Creu Ffilm Ac Animeiddio
Yn yr Adran Hon
Creu Ffilm ac Animeiddio
Creu Ffilm
Creu ffilm ydy'r gweithgaredd a’r broses o gynhyrchu ffilm. Er ei bod yn cymryd blynyddoedd i wneud ffilmiau yn broffesiynol, ac yn gofyn am lawer iawn o arian, ond bydd llawer o bobl yn gwneud ffilmiau byrion neu fideos cartref ar lefel is ac ar gyllideb fach. Gall gwneuthurwyr ffilmiau amatur ifanc gyflawni canlyniad hynod broffesiynol trwy ddefnyddio proses ffilmio digidol a phecyn cartref o feddalwedd golygu.
Mae sawl agwedd wahanol i greu ffilm y gallet ti ddysgu amdanyn nhw neu fod yn rhan ohonyn nhw, er enghraifft golygu, cyfarwyddo, cynhyrchu neu ysgrifennu sgriptiau – mae’r rhain i gyd yn wahanol iawn i’w gilydd ond yn agweddau'r un mor bwysig o greu ffilm.
Dyma gamau gwneud ffilm:
- Datblygu
- Cyn–gynhyrchu
- Cynhyrchu
- Ôl–gynhyrchu
- Dosbarthu
I ddysgu am greu ffilmiau fe allet ti astudio llyfrau ar y pwnc, mynd i weithdy neu gwrs gwneud ffilmiau, astudio gwneud ffilmiau yn y coleg neu’r brifysgol neu gysylltu â’r Ganolfan Ddysgu Gymunedol am wybodaeth bellach. Neu fe allet ti wneud fideo cartref gan ddefnyddio camera fideo. Efallai y byddi di’n penderfynu gwneud ffilm fer am hwyl, i ennill profiad, i roi syniad ar brawf neu i geisio gwneud rhywfaint o arian.
Os wyt ti am i ffilm fer gael ei sgrinio, mae’n bosibl y bydd sianel deledu yn ei dangos, ond mae’n debyg mai’r ffordd orau fyddai gŵyl ffilmiau, neu ei ddangos i ffrindiau a theulu i gael eu hymateb nhw. Gallet ti hefyd ei gosod ar y rhyngrwyd. Bydd angen i ffilm fer gyrraedd lefel ansawdd benodol cyn cael ei darlledu ar y teledu.
Cyn i ti ddechrau ar y prosiect, ceisia nodi dy amcanion, oherwydd dyma fydd yn helpu ti benderfynu faint o offer fydd ei angen arnat ti, p’un a oes angen criw ai peidio, a beth yw’r ansawdd ffilm rwyt ti’n anelu ato. Efallai bod posib i ti ddod o hyd i gyllid i'r prosiect gan fod yna bobl sy'n awyddus buddsoddi mewn syniadau newydd, oherwydd gallant fod yn llwyddiannus.
Mae Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd yn cynnig cyrsiau amser llawn ym mhob agwedd creu ffilm, gan gynnwys ei gwrs Animeiddio adnabyddus.
Animeiddio
Cynhyrchu llun symudol yw animeiddio. Gallai hyn fod trwy:
- Animeiddio plaen, e.e. dilyniant o luniau
- Animeiddio cyfrifiadurol
- Animeiddio â phypedau e.e. modelau o glai
Animeiddio cyfrifiadurol yw’r math mwyaf poblogaidd. Mae cannoedd o raglenni a ffilmiau plant wedi’u hanimeiddio – sioe animeiddio â chlai yw 'Wallace and Gromit', animeiddio plaen yw 'Sleeping Beauty', ac animeiddio cyfrifiadurol yw 'Toy Story'.
Gallet ti ddysgu am animeiddio trwy astudio cwrs, trwy gymryd rhan mewn gweithdy neu drwy edrych ar lyfrau neu’r rhyngrwyd.
Mae gan radd Animeiddio Prifysgol Casnewydd yn Ne Cymru enw da iawn drwy’r byd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o animeiddio fel celfyddyd ffilm yn ogystal ag dysgu technegau animeiddio. Mae’r cwrs yn cael ei ddysgu trwy gyfres o weithdai, seminarau a phrosiectau ymchwil gyda goruchwyliaeth bersonol.