Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Cerddoriaeth
Yn yr Adran Hon
Cerddoriaeth
Mae perfformio a gwrando ar gerddoriaeth yn foddhaol iawn ac yn llawer o hwyl. Gallet berfformio’n unigol, gyda grŵp o ffrindiau mewn band, neu hyd yn oed fel rhan o gerddorfa.
Dysgu chwarae offeryn
Mae ystod anferth o offerynnau cerddorol gallet ddysgu – rwyt ti'n sicr o ffeindio un i ti. Gallet ti hefyd sefyll arholiadau cerddorol er mwyn dangos faint rwyt ti'n ei ddysgu.
Mae offerynnau poblogaidd yn cynnwys:
- Piano
- Ffliwt
- Ffidil
- Sacsoffon
- Clarinét
- Gitâr
- Drymiau
Mae llawer o ysgolion yn cynnig gwersi cerddoriaeth, ac efallai bydd ganddynt fand neu gôr ysgol y gallet ti ymuno â nhw. Mae yna hefyd sawl sefydliad gall helpu.
Prynu cerddoriaeth
Mae'r mwyafrif o bobl eisiau prynu’r gerddoriaeth y maen nhw’n ei glywed, ac mae nifer o ffyrdd o wneud hyn. Bellach gall prynu cerddoriaeth o sawl archfarchnad fel Tesco ac Asda, yn ogystal â siopau ar y stryd fawr fel HMV ac ar-lein.
Pan ti'n clywed cân ti'n hoffi, gall un ai prynu’r gân yn unig (y sengl) neu'r albwm cyfan, fydd efo llawer mwy o ganeuon gan yr un perfformiwr.
Lawrlwytho Cerddoriaeth
Mae llawer o bobl ifanc yng Nghymru yn prynu eu cerddoriaeth trwy ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd. Mae lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon os wyt ti'n talu amdano ac os nad wyt ti'n ei basio ymlaen i bobl eraill. Os wyt ti'n lawrlwytho yn anghyfreithlon neu’n rhannu ffeiliau gallet ti wynebu dirwyon hyd at filoedd o bunnoedd.
Mae’r gwefannau canlynol yn caniatáu lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon:
- Amazon MP3
- Bleep
- HMV
- iTunes