Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Dawns
Yn yr Adran Hon
Dawns
Mae dawns yn ffordd wych o fynegi dy hun trwy symud i gerddoriaeth. Mae dawnsio hefyd yn ffordd dda o gadw’n heini, gan y gall fod yn egnïol iawn, a gall hefyd helpu ti i gyfarfod â phobl newydd.
Mae yna sawl math o ddawns i ddewis o’u plith, sydd ag arddulliau gwahanol ac sy’n creu gwahanol awyrgylchoedd, felly rwyt ti’n siŵr o ddod o hyd i un y byddi di’n ei fwynhau, gan gynnwys:
- Bale
- Tap
- Dawnsio neuadd (ballroom)
- Salsa
- Disgo
- Cyfoes
Bydd gan lawer o ysgolion ddosbarth neu glwb dawnsio – os wyt ti am gymryd rhan, gofynna a fedri di ymuno â nhw. Os nad wyt ti'n cael y cyfle i gymryd rhan mewn dawns yn yr ysgol, mae yna lawer o glybiau dawnsio lleol y gallet ti ymuno â nhw. Mae yna gymaint o bobl ifanc yn dechrau cymryd rhan mewn dawns yng Nghymru, mae’n siŵr bod yna grŵp yn agos i ti.