Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Celf a Chrefft
Yn yr Adran Hon
Celf a Chrefft
Mae ysgolion a cholegau yn llefydd da i roi cynnig ar amrywiaeth o wahanol gelfyddydau a chrefftau.
Mae yna lawer o wahanol fathau o gelfyddydau a chrefftau, gan gynnwys:
- Gwnïo a gweu
- Modelu clai
- Crochenwaith
- Paentio a lluniadu
- Caligraffeg
- Gwneud cardiau
- Gwneud gemwaith
Mae yna glybiau a chymdeithasau fydd yn dysgu ti am y sawl sgìl celf a chrefft wahanol ac yn aml byddant yn darparu'r offer angenrheidiol i ti am ffi fechan.
Celf a chrefft ar gyfer yr anabl
Os wyt ti'n anabl, dydy hynny ddim yn golygu na allet ti gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft. Mae celf a chrefft yn aml yn cael ei ddefnyddio fel modd o fynegi eu hunain i nifer o bobl anabl, felly os wyt ti am roi cynnig arni gofynna i dy ysgol neu weithiwr gofal am wybodaeth bellach.