Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Actio, Drama a'r Theatr



Actio, Drama a'r Theatr

Mae actio yn golygu adrodd drama i gynulleidfa wrth chwarae cymeriad yn y stori, yn cymryd ei bersonoliaeth a'i ddullwedd. Mae'n ffordd wych i gyfarfod ffrindiau newydd a chynyddu hyder.

Gall actorion weithio mewn theatrau, ar y radio, ar y teledu neu mewn ffilmiau – a bydd y mwyafrif o'r bobl hyn wedi cychwyn actio mewn dramâu ysgol a dosbarthiadau drama. Yn ogystal ag actio yn yr ysgol mae yna nifer o glybiau a chymdeithasau gall helpu ti i ddod yn actor.

Os wyt ti eisiau bod yn rhan o'r theatr neu deledu, ond ddim eisiau actio, gallet ti fod yn rhan o bethau 'tu cefn i'r llenni'. Mae hyn yn cynnwys:

  • Dylunio set
  • Dylunio gwisgoedd
  • Colur
  • Goleuadau
  • Gweledol
  • Sain

Mae'r ysgol yn le da i gychwyn bod yn rhan tu cefn i'r llenni, ond mae clybiau a chymdeithasau actio yn dysgu'r sgiliau hyn fel arfer hefyd.

Mynd i'r theatr

Hyd yn oed os nad wyt ti eisiau actio dy hun, mae mynd i wylio pobl yn actio ar y llwyfan mewn dramâu a pherfformiadau yn hwyl dda.

Mae sawl math o berfformiadau i'w gweld yn y theatr, er esiampl:

  • Comedïau
  • Trasiedi
  • Rhamant
  • Cerddorol

Mae Cymru efo nifer fawr o theatrau, gan gynnwys:

  • Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
  • Theatr Newydd, Caerdydd
  • Clwyd Theatr Cymru, Y Wyddgrug
  • Theatr y Grand, Abertawe
  • Venue Cymru, Llandudno

Ond mae yn a nifer fawr eto o theatrau yng Nghymru, yn ogystal â grwpiau theatr sydd yn teithio'r wlad a ddim angen theatrau mar i berfformio ynddynt. Mae yna nifer o theatrau yng Nghymru sydd yn dangos dramâu a chynyrchiadau iaith Gymraeg.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50