Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Sgiliau Syrcas
Yn yr Adran Hon
Sgiliau Syrcas
Yn ogystal â mynd i weld y syrcas, gallet ti gymryd rhan a dysgu’r sgiliau dy hun.
Mae nifer fawr o sgiliau syrcas i’w dysgu, gan gynnwys:
- Jyglo
- Rhaff-gerdded
- Troelli platiau
- Cerdded ar stilts
- Trapîs
Mae Trapîs a rhaff–gerdded yn llawer o hwyl i’w dysgu ond ni ddylai ceisio eu dysgu ar ben dy hun – rhaid sicrhau bod arbenigwr o gwmpas i helpu. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan ac yn dysgu’r sgiliau hyn. Mae angen canolbwyntio a bod yn ddewr er mwyn bod yn berfformiwr syrcas da. Mae llawer o glybiau a syrcasau yng Nghymru i ddysgu’r sgiliau hyn i ti.