Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Y Celfyddydau » Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol



Ffotograffiaeth a Delweddau Digidol

Ffotograffiaeth ydy tynnu lluniau a’u datblygu, mae'n wyddoniaeth ac yn gelf a gall fod yn ddiddordeb neu'n yrfa.

Mae llwyddiant mewn ffotograffiaeth yn gyfuniad o'r math o gamera ti'n defnyddio i'r ffordd y byddi di'n ei ddefnyddio, dy dechneg a dy ddewis o luniau. Mae ffotograffwyr yn ceisio tynnu lluniau delweddau mewn dull creadigol am sawl rheswm – i ddatgan rhywbeth, i adrodd stori, i wneud i bobl chwerthin neu i ysgogi teimladau pobl. Fedri di hefyd dynnu lluniau personol i gofio achlysuron arbennig.

Mae’n bosib dilyn cwrs ffotograffiaeth rhan–amser, astudio ffotograffiaeth yn y brifysgol neu ddysgu amdano gan ddefnyddio’r rhyngrwyd a ffynonellau eraill sydd ar gael. Mae’r rhan fwyaf o golegau a phrifysgolion yn cynnig cyrsiau ar ffotograffiaeth. Cysyllta â'r coleg neu'r brifysgol leol i gael mwy o wybodaeth.

Os wyt ti’n hoff iawn o ffotograffiaeth byddai prynu camera dy hun yn syniad da. Maen nhw’n tueddu i fod yn ddrud, felly gwna'n siŵr dy fod di’n gofalu am dy offer.

Bydd llawer o bobl yn casglu ffotograffau yn yr un modd ag y byddan nhw’n casglu darluniau – mae yna sawl ffotograffydd Cymreig enwog er enghraifft Andy Chittock, Siân Trenberth, Michael Dearden, Mansel Davies, Nick Jenkins, Phil Boorman a Graham Morley.

Mae Cymru yn lle da iawn i dynnu lluniau – y llefydd gorau i dynnu lluniau ydy Rhaeadrau Conwy, Camlas Llangollen a Phistyll Rhaeadr.

Elusen addysgol gofrestredig yw’r Gymdeithas Ffotograffiaeth Frenhinol, a chrëwyd hi i hybu ffotograffiaeth yn y DU. Mae’n parhau i wneud hynny hyd heddiw – gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes ymaelodi ac mae sawl grŵp mwy arbenigol yn y gymdeithas, er enghraifft grwpiau delweddu digidol, argraffu cain, ffotograffiaeth natur, arferion cyfoes, darluniadaeth, gwyddoniaeth delweddu a delwedd symudol. Mae’r gymdeithas hefyd yn cynnig rhaglenni addysgol, gweithdai a darlithoedd ledled y DU.

Dyma’r prif glybiau a chymdeithasau ffotograffiaeth yng Nghymru:

  • Cymdeithas Ffotograffig a Delweddu Digidol Gwent
  • Cymdeithas Ffotograffig Merthyr Tudful
  • Cymdeithas Ffotograffig Y Pïl a Phorthcawl
  • Grŵp Delweddu Digidol Caerdydd
  • Clwb Camera Conwy
  • Clwb Camera Treforys
  • Ffotogallery – y brif asiantaeth ffotograffiaeth yng Nghymru
  • Clwb Camera Abertawe
  • Clwb Ffotograffig Trefynwy
  • Clwb Camera Caerdydd
  • Clwb Camera Pen–y–bont ar Ogwr

Delweddau Digidol

Mae camerâu digidol yn caniatáu i ffotograffwyr drosglwyddo’u delweddau yn syth i gyfrifiadur. Gall rhai pecynnau meddalwedd ganiatáu i ddefnyddwyr newid y delweddau i wella’u hansawdd.

Gellir e–bostio delweddau digidol i bobl eraill a’u hargraffu ar bapur ffotograffig. Mae camerâu digidol hefyd yn caniatáu i ffotograffwyr weld sut bydd y llun yn edrych cyn ei argraffu.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50