Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Garddio
Yn yr Adran Hon
Garddio
- Mae garddio a phlanhigion yn ddiddordeb poblogaidd i lawer o bobl ifanc, yn enwedig yn y gwanwyn a’r haf pan fydd y tywydd yn gynhesach
- Os nad oes gen ti ardd, yna gallet ti ddefnyddio dy fysedd gwyrdd i dyfu planhigion mewn potiau a phlanhigion dan do
- Hefyd gallet ti roi cynnig ar weithio rhandir – darn o dir yw hwn y gallet ti ei rentu, oddi wrth dy awdurdod lleol fel arfer, a gallet ti dyfu dy ddewis di o blanhigion, blodau a llysiau arno
- Mae tyfu ffrwythau a llysiau yn dod yn fwyfwy poblogaidd wrth i’r galw gynyddu am fwyd organig
- Bydd llawer o bobl ifanc yn dysgu am arddio oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau, ond mae digonedd o lyfrau i’w darllen a rhaglenni teledu y gallet ti eu gwylio i ddysgu’r sgiliau sylfaenol
- Mae garddio yn weithgaredd cymunedol poblogaidd. Bydd llawer o bobl ifanc yn rhoi eu hamser hamdden i helpu eu cymuned leol trwy blannu bylbiau neu chwynnu ardaloedd cymunedol fel parciau a mannau agored