Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Gwirfoddoli
Yn yr Adran Hon
Gwirfoddoli
- Rhoi dy amser sbâr i helpu pobl eraill yw gwirfoddoli
- Gallet ti wirfoddoli ar gyfer unrhyw beth, o dreulio amser yn helpu cymdogion i ofalu am anifeiliaid sydd wedi cael eu hachub. Gan fod cymaint o wahanol ffyrdd o wirfoddoli, dylet ti allu dod o hyd i rywbeth fydd o ddiddordeb i ti
- Yn ogystal â gwybod dy fod wedi helpu pobl eraill, mae gwirfoddoli hefyd yn gwneud lles i ti. Mae’n dangos dy fod di’n gyfrifol ac yn ddibynadwy, a fydd yn ddefnyddiol pan ddaw i chwilio am swydd
- Mae sawl ffordd o wirfoddoli. Gallet ti gofrestru â sefydliad gwirfoddoli, a fydd yn helpu ti i ddod o hyd i leoliad gwirfoddoli y byddet ti'n ei fwynhau. Neu os wyddost ti pa gwmni byddet ti'n hoffi gwirfoddoli ag ef, gallet fynd yn uniongyrchol at y cwmni a gofyn a fyddan nhw’n derbyn gwirfoddolwyr. Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion gynllun gwirfoddoli, felly os wyt ti’n mynd i’r brifysgol, gallet ti barhau i wirfoddoli unwaith y byddi di yno