Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Sinema
Yn yr Adran Hon
Sinema
- Mae gan lawer o ddinasoedd a threfi Cymru sinema lle gallet ti fynd i weld y ffilmiau diweddaraf cyn iddyn nhw ddod i’r siopau
- Mae gan ddinasoedd mawr sinemâu aml–sgrin – fel arfer mae ganddyn nhw saith neu fwy o sgriniau yn dangos gwahanol ffilmiau ar wahanol adegau
- Fel arfer mae gan ddinasoedd a threfi llai sinemâu ag un sgrin yn dangos un neu ddwy o ffilmiau am gyfnod byr
- Amgylchedd distaw yw’r sinema, felly gwna'n siŵr dy fod di’n diffodd dy ffôn symudol i osgoi aflonyddu ar y bobl eraill o gwmpas
Dosbarthiad ffilm
Mae’n rhaid i bob ffilm sy’n cael ei dangos mewn sinema yn y DU fod â thystysgrif oddi wrth Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain (BBFC). Bydd tystysgrif yn cael ei rhoi i bob ffilm i ddangos yr oedran y mae’r Bwrdd yn ystyried y ffilm yn addas ar ei chyfer. Dyma’r dosbarthiadau:
- U – Cyffredinol, addas i bob oed
- PG – Arweiniad rhieni, yn addas i bawb, ond gallai rhai o’r golygfeydd fod yn anaddas i blant iau
- 12A – Rhaid i rywun dros 18 fod gyda phlant dan ddeuddeg
- 15 – Addas i gynulleidfaoedd 15 oed a hŷn
- 18 – Addas i oedolion yn unig
Bydd y ffilmiau’n cael eu hasesu yn ôl faint o iaith amhriodol, rhyw a thrais sydd ynddyn nhw. Pan fyddi di’n mynd i’r sinema, mae’n bosib y bydd rhywun yn gofyn am brawf oedran.
Ffilm–ladrad
- Mae’n anghyfreithlon defnyddio unrhyw gyfarpar ffotograffig (gan gynnwys ffôn symudol) i dynnu lluniau neu ffilmio tra bod y sinema’n dangos ffilm
- Os amheuir bod rhywun yn ffilmio y tu mewn i’r sinema, mae perygl y byddan nhw’n rhoi gwybod i’r heddlu