Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Ffasiwn
Yn yr Adran Hon
Ffasiwn
- Mae ffasiwn o ddiddordeb mawr i lawer o bobl ifanc
- Mae ffasiwn yn rhan fawr o ddelwedd rhywun – gall yr hyn rwyt ti’n ei wisgo cyfleu pa hwyl rwyt ti ynddo, dy bersonoliaeth neu chwaeth
- Mae yna lawer o wahanol ffyrdd y gallet ti chwarae rôl ym myd ffasiwn, yn amrywio o ddylunio dillad dy hun i astudio ffasiwn, a thrwy ddilyn y tueddiadau ffasiwn diweddaraf
- Gall fod yn beth drud cadw i fyny â’r ffasiynau diweddaraf gan eu bod nhw’n newid yn aml – ceisia ddylunio a gwneud dillad dy hun, neu addasu dy ddillad i fynegi dy bersonoliaeth trwy’r hyn rwyt ti’n ei wisgo
- Gallet ti addasu dillad trwy eu gwnïo a’u torri, neu drwy ychwanegu pethau fel secwins neu rubanau i greu dilledyn unigryw
- Cynhelir sioeau ffasiwn i wahanol ddylunwyr arddangos eu casgliadau newydd i gynulleidfaoedd
- Mae yna ddau achlysur ffasiwn o bwys yn y DU, sef London Fashion Week a Clothes Show Live