Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Cyfrifiaduron



Cyfrifiaduron

  • Mae cyfrifiaduron ar gael ar sawl ffurf a gall eu defnyddio at amrywiaeth o ddibenion
  • Prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, gemau, chwarae a chreu cerddoriaeth a defnyddio’r rhyngrwyd yw’r dibenion mwyaf cyffredin
  • Mae’n bosib y byddi di’n ei chael yn hwylus defnyddio cyfrifiadur i greu a storio gwaith ysgol neu brosiect rwyt ti’n gweithio arno
  • Bydd llawer o bobl yn defnyddio rhyw fath o gyfrifiadur ar gyfer eu swyddi
  • Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur yn yr ysgol, ond mae cyrsiau ar gael i ti eu dilyn os wyt ti am ddysgu mwy

Y Rhyngrwyd

Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn un o ddibenion mwyaf cyffredin cyfrifiaduron personol. Bydd pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys:

  • Dod o hyd i wybodaeth am unrhyw bwnc
  • Dysgu
  • Cael y newyddion diweddaraf
  • Creu busnes
  • Prynu a gwerthu nwyddau
  • Cyfarfod â phobl a ’sgwrsio’
  • Siarad â phobl
  • Cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau

Mae mynediad i’r rhyngrwyd am ddim yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru.

Ystafelloedd Sgwrsio

  • Mae ystafelloedd sgwrsio yn ffordd wych o rannu diddordebau a barn â phobl, ond cofia fod modd i unrhyw un sydd wedi mewngofnodi ac sy’n edrych ar y dudalen we weld yr hyn rwyt ti'n ei deipio i mewn i ystafell sgwrsio neu fwrdd negeseuon
  • Y ffordd orau o ddefnyddio ystafell sgwrsio yw defnyddio un sy’n cael ei goruchwylio. Mae hyn yn golygu bod goruchwyliwr yn monitro pynciau’r sgyrsiau ac yn rhybuddio pobl sy’n dweud rhywbeth amhriodol neu ddifrïol
  • Gall goruchwylwyr hefyd wahardd pobl o rai ystafelloedd sgwrsio

Risgiau Ystafell Sgwrsio

Gall sgwrsio â phobl dros y rhyngrwyd fod yn hwyl, ond mae’n rhaid i ti sylweddoli na fyddi di weithiau yn adnabod y bobl rwyt ti'n cyfathrebu â nhw. Gall rhai pobl ddweud celwydd ac esgus eu bod yn rhywun nad ydyn nhw mewn gwirionedd, felly mae’n bwysig cadw’n ddiogel.

Mae cadw’n ddiogel pan fyddi di ar–lein yn rhwydd:

  • Paid rhannu unrhyw fanylion personol nac ariannol, gan gynnwys oed, rhif ffôn, manylion cyfrif banc, cyfeiriad cartref
  • Paid dweud pa ysgol neu brifysgol rwyt ti'n mynd
  • Paid anfon unrhyw luniau ohonot ti dy hun dros y rhyngrwyd
  • Paid credu popeth y bydd pobl yn ei ddweud wrthyt ti
  • Os bydd rhywun yn gofyn am gyfarfod, mae hi'n llawer mwy diogel cyfarfod yn yr ystafell sgwrsio
  • Os wyt ti'n penderfynu eu cyfarfod, gwna'n siŵr dy fod di’n penderfynu ar rywle cyhoeddus, a cher â ffrind gyda thi, beth bynnag dy oed
  • Os wyt ti dan 16 oed, byddai’n well mynd yng nghwmni oedolyn er dy ddiogelwch

Siopa dros y rhyngrwyd

  • Mae prynu nwyddau dros y rhyngrwyd yn ffordd gyflym o siopa – gall chwilio am yr eitem rwyt ti am ei chael a thalu amdani ar–lein
  • Mae risg ynghlwm â thalu am nwyddau â cherdyn debyd neu gerdyn credyd, gan y gallai defnyddwyr eraill y we gael mynediad i’r dudalen a chasglu manylion y cerdyn
  • Pan fyddi di'n siopa ar–lein, gwna'n siŵr dy fod di’n defnyddio gwefannau diogel yn unig. Chwilia am logo clo clap ar waelod y sgrin
  • Mae’r logo clo clap yn golygu na all defnyddwyr eraill y we weld y wybodaeth rwyt ti’n ei hanfon dros y rhyngrwyd
  • Os byddi di’n prynu nwyddau ar–lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, mae gen ti’r un hawliau â phe byddet wedi’u prynu mewn siop –gweler gwefan y Swyddfa Masnachu Deg i gael rhagor o wybodaeth

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50