Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Llenyddiaeth



Llenyddiaeth

Mae darllen ac ysgrifennu yn caniatáu i ti ymgolli mewn byd gwahanol a defnyddio'r dychymyg. Gyda llenyddiaeth, nid oes angen llawer i gychwyn. Dim ond ychydig ddalenni o bapur, dychymyg da ar gyfer ysgrifennu, a llyfrgell ar gyfer darllen.

Prynu llyfrau

Mae sawl ffordd o brynu llyfrau:

  • O siopau llyfrau’r stryd fawr, gan gynnwys Waterstones a WHSmiths, yn ogystal â siopau llyfrau annibynnol llai
  • Yn aml bellach mae'n rhatach i brynu llyfrau dros y we, o safleoedd fel Amazon a Blackwells
  • Mae llawer o archfarchnadoedd, fel Tesco, Asda a Sainsbury’s yn gwerthu llyfrau hefyd
  • Mae siopau elusennau a siopau llyfrau ail law yn lleoedd gwych i ddod o hyd i lyfrau yn rhad

Darllen

Mae darllen yn ffordd wych o ymlacio, a byddi di hefyd yn datblygu sgiliau ysgrifennu dy hun oherwydd gallet ti ddarllen sawl math gwahanol o ysgrifennu.

Does dim rhaid i ti brynu’r holl lyfrau rwyt ti am eu darllen. Bydd gan lawer o ysgolion lyfrgelloedd lle gallet ti fenthyca llyfrau, neu gallet ti eu benthyca o lyfrgelloedd cyhoeddus hefyd yn rhad ac am ddim.

Llyfrgelloedd

Mae gan lawer o drefi a dinasoedd lyfrgell gyhoeddus lle gall fenthyca llyfrau yn rhad ac am ddim. Mae llyfrgelloedd yn ffordd wych o ddysgu mwy am bwnc penodol neu i ddarllen er pleser, beth bynnag dy oed a gallu. Mae llyfrgelloedd heddiw yn cynnwys nid yn unig llyfrau, ond hefyd llu o adnoddau gan gynnwys cyfleusterau ar–lein ac amlgyfrwng a phapurau newydd y gallet ti eu darllen yn rhad ac am ddim.

Mae CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) yn rheoli rhaglen o’r enw ’@ Eich Llyfrgell Chi’ sydd â’r nod o wella a chynyddu cyfleusterau llyfrgell yng Nghymru. Ymhlith rhai o nodau’r rhaglen mae:

  • I ddatblygu a hybu adnoddau ar–lein mewn llyfrgelloedd yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • I gynnal mynediad i’r adnoddau yn rhad ac am ddim
  • I ddatblygu gwasanaethau i ddefnyddwyr ag anghenion mynediad unigol

Ysgrifennu

Mae ysgrifennu yn caniatáu i ti fynegi dy hun a bod yn greadigol oherwydd bod modd i ti ysgrifennu am unrhyw beth ti'n dymuno.

Gallet ti ysgrifennu unrhyw arddull o lenyddiaeth – gan gynnwys barddoniaeth, straeon a dramâu

Gwyliau Llenyddol

Os wyt ti’n hoff o lenyddiaeth, yna fe allet ti fwynhau gŵyl lenyddol. Mae gwyliau llenyddol yn dathlu llyfrau a llenyddiaeth. Fe fydd gŵyl fel arfer yn cynnwys perfformiadau gan awduron sy’n darllen o’u nofelau, y cyfle i gyfarfod ag awduron, gweithdai, a llawer o lyfrau i’w prynu.

Mae un o’r gwyliau llenyddol mwyaf enwog yn cael ei chynnal bob blwyddyn yn Y Gelli Gandryll yng Nghymru. Mae yna rai eraill y gallet ti fynd iddyn nhw ledled y wlad.

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50