Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Bwyd/Coginio
Yn yr Adran Hon
Bwyd/Coginio
- Mae arbrofi gyda bwyd a’i goginio dy hun yn ffordd dda o roi cynnig ar flasau a chyfuniadau newydd o fwydydd
- Gall dosbarthiadau coginio addysgu ti am wahanol fathau o fwyd fel bwyd yr Eidal neu India
- Bydd llawer o bobl yn cael eu dysgu sut i goginio gan aelodau eraill o’u teulu neu eu ffrindiau – mae coginio yn ffordd dda o rannu gwybodaeth a ryseitiau
- Mae’n bwysig dy fod di'n bwyta diet cytbwys ac yn ceisio bwyta pum darn o ffrwythau a llysiau bob dydd
- Mae bwyd o wahanol grwpiau yn rhoi'r amrywiaeth o fitaminau a mwynau hanfodol y mae eu hangen ar y corff. Bydd bwyta diet cytbwys yn sicrhau bod y corff yn derbyn y maetholion hanfodol yma i gadw'n iach, ac yn teimlo’n heini fel y byddi di'n byw yn hirach
Diogelwch yn y gegin
- Mae’r cyllyll sy’n cael eu defnyddio wrth goginio yn aml yn finiog iawn, felly cymera ofal na fyddi di’n torri dy groen
- Wrth dorri bwyd, ceisia ei dorri gan fynd â’r gyllell i ffwrdd o’r corff, fel na fydd yn dy dorri di os yw’n llithro
- Mae’n bosibl i ffwrn neu bentan fynd yn boeth iawn, felly gwna'n siŵr dy fod di’n gwisgo menig amddiffynnol fel na fyddi di’n llosgi