Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Dyfeisio



Dyfeisio

  • Mae dyfeisiau’n cael eu creu gan ddyfeiswyr sy’n cynhyrchu pethau nad oes neb wedi’u creu o’r blaen
  • Gallet ti ddyfeisio unrhyw beth y gallet ti feddwl amdano, mewn unrhyw ran o fywyd. Does dim rhaid i ti ddyfeisio pethau diriaethol – gallet ti ddyfeisio ieithoedd neu gerddoriaeth newydd
  • Os wyt ti’n dyfeisio rhywbeth y mae angen defnyddio peiriannau, cemegau neu offer ar ei gyfer, bydda'n ofalus bob amser. Gwisga ddillad amddiffynnol a gwna'n siŵr dy fod di’n cael goruchwyliaeth arbenigwyr
  • Mae dyfeiswyr enwog wedi dyfeisio llawer o’r pethau rydyn ni’n eu cymryd yn ganiataol heddiw, gan gynnwys:
    • Y ffôn (Alexander Graham Bell)
    • Y bwlb golau (Thomas Edison)
    • Teledu (John Logie Baird)
    • Camerâu (George Eastmann)
  • Mae’n bosib y bydd modd dechrau dyfeisio yn yr ysgol, lle efallai y gofynnir i ti ddyfeisio pethau fel rhan o brosiect dylunio. Os ddim, yna gallet ti ymuno â chlwb dyfeisio lleol, lle byddi di’n cael help a chefnogaeth aelodau eraill, neu gallet ti ddechrau ar liwt dy hun yn dy amser rhydd. Y cyfan sydd ei angen yw dychymyg da!

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50