Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Diddordebau » Teledu



Teledu

  • System telathrebu ar gyfer darlledu sain a delweddau symudol yw’r teledu
  • Mae gan sianeli teledu eu hamserlenni darlledu eu hunain ac, fel arfer, eu rhaglenni newyddion eu hunain
  • Mae gan lawer o bobl deledu yn eu cartref fel ffynhonnell adloniant a gwybodaeth
  • Fe fydd y rhan fwyaf o sianeli teledu yn darparu rhaglenni adloniant a newyddion cenedlaethol, ond ceir rhai sianeli arbenigol sy’n darlledu rhaglenni ar eu pwnc arbenigol
  • Mae’r ’trothwy 9 o’r gloch’ yn golygu na chaniateir darlledu deunydd sy’n anaddas i blant, er enghraifft deunydd sy’n cynnwys rhegi, rhyw a thrais, cyn 9 o’r gloch gan y gallai plant fod yn gwylio

Y BBC

  • Arian cyhoeddus sy’n cyllido’r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC) a’i gwaith yw cynhyrchu rhaglenni a gwasanaethau gwybodaeth
  • Dyma’r gorfforaeth ddarlledu fwyaf yn y byd 
Mae’r BBC yn darparu newyddion lleol a chenedlaethol, rhaglenni dogfen, celfyddydau, drama, adloniant, cerddoriaeth fyw a rhaglenni plant
  • Mae’r BBC hefyd yn rhedeg rhaglenni gweithredu cymdeithasol, addysg ac ieithoedd lleiafrifol
  • Dyma sianeli’r BBC:
    • BBC One (& BBC One HD)
    • BBC Two (& BBC Two HD)
    • BBC Three (& BBC Three HD)
    • BBC Four (& BBC Four HD)
    • CBBC (& CBBC HD)
    • CBeebies (& CBeebies HD)
    • BBC News (& BBC News HD)
    • BBC Parliament
    • Teledu Rhyngweithiol
  • Hefyd ceir sianeli rhanbarthol y BBC sy’n amrywiadau ar y sianeli cenedlaethol, er enghraifft BBC Cymru
  • Mae BBC Cymru yn rhedeg y rhan fwyaf o’r un rhaglenni â’r BBC ond, er enghraifft, mae’n darlledu ’Wales Today’, sef newyddion cenedlaethol Cymru, ar ôl y newyddion min nos Brydeinig
  • Cwmni teledu annibynnol yw Channel 4 ac mae ganddo fersiwn Cymraeg, sef S4C
  • Mae BBC Cymru ac S4C yn cynhyrchu llawer o’u rhaglenni eu hunain, rhai ohonyn nhw yn Gymraeg, er enghraifft Pobl Y Cwm a Rownd a Rownd

Trwyddedu

  • Tua £10 y mis yw pris trwydded deledu
  • Mae’r BBC yn defnyddio arian trwyddedau’r cyhoedd i gyllido’i sianeli
  • Mae’r drwydded deledu yn golygu nad oes gan y BBC, yn wahanol i lawer o gorfforaethau teledu eraill, hysbysebion, cyfranddalwyr na gogwydd gwleidyddol

Hysbysebion

  • Mae’r rhan fwyaf o sianeli teledu yn cael eu hariannu gan gwmnïau sy’n hysbysebu eu cynnyrch/cynhyrchion yn ystod toriadau hysbysebu'r sianel
  • Nid oes gan y BBC unrhyw doriadau hysbysebu oherwydd mai arian cyhoeddus sy’n talu amdano

Teledu daearol, digidol a sky

  • Mae teledu digidol yn system amgen i'r hen system analog, sydd yn caniatáu i ddarlledwyr gynnig mwy o sianeli a rhaglenni, mwy o swyddogaethau a gwell ansawdd o lun a sain
  • Mae teledu digidol yn cael ei drosglwyddo drwy Deledu Talu del Sky, BT a Virgin Media a Theledu Darlledu Am Ddim fel Freeview a Freesat

Teledu Sky

  • Gwasanaeth tanysgrifiadau lloeren ddigidol yw teledu Sky
  • Mae’n cynnwys gwahanol gategorïau o adloniant a gwybodaeth, megis Sky Sports, Sky News a Sky Movies ac mae ganddo gannoedd o wahanol sianeli
  • I osod sky, mae angen dysgl lloeren a blwch sky

Risgiau i iechyd

  • Mae meddygon yn dweud y gallai gwylio gormod o deledu cynyddu risgiau gordewdra a diabetes oherwydd dy fod di’n llonydd. Os wyt ti'n gwylio llawer o deledu, gwna'n siŵr dy fod fi hefyd yn ymarfer y corff yn rheolaidd yn dy amser hamdden

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50