Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Cwpan Rygbi'r Byd
Yn yr Adran Hon
Cwpan Rygbi'r Byd
- Cwpan Rygbi’r Byd yw cystadleuaeth rygbi undeb ryngwladol bwysicaf y byd
- Y wobr i’w hennill yw Tlws William Webb Ellis, sydd wedi’i enwi ar ôl y disgybl Ysgol Rygbi a oedd, yn ôl pob sôn, wedi dyfeisio’r gêm
- Cafodd y digwyddiad cyntaf ei gynnal yn Awstralia a Seland Newydd yn 1987, ac mae’n digwydd bob pedair blynedd
- Mae’r broses gymhwyso yn para dwy flynedd
- Mae’r gemau’n digwydd mewn sawl stadiwm yn y wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth
A wyddost di…?
- Fe wnaeth Cymru gynnal Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999 lle'r oedd Awstralia yn fuddugol
- Aeth 600,000 o bobl i Gwpan Rygbi’r Byd yn Awstralia a Seland Newydd yn 1987
- Erbyn Cwpan Rygbi’r Byd 2007, roedd y niferoedd wedi codi i dros 2.2 miliwn o bobl