Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Gemau Olympaidd



Gemau Olympaidd

Mae’r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad i athletwyr gorau'r byd arddangos eu medr a'u dygnwch mewn cyfres o gystadlaethau. Dyma'r digwyddiad aml-chwaraeon mwyaf yn y byd. Mae’r Gemau wedi’u cynnal bob pedair blynedd ers 1896 ac yn digwydd yn ystod yr haf. Mae bron pob gwlad yn anfon tîm o athletwyr dethol i gystadlu.

Mae’r Gemau’n cael eu cynnal mewn gwlad wahanol bob tro, ac mae nifer o wledydd yn gwneud cais i gynnal y digwyddiad. Mae’r gystadleuaeth yn dod â llawer o arian a chyhoeddusrwydd i’r wlad lle y cynhelir y Gemau.

Dyfeisiwyd y Gemau Olympaidd gan yr Hen Roegiaid, Ei nod yw hybu cyfeillgarwch rhwng gwledydd.

Mae gemau Olympaidd yn cynnwys y canlynol:

  • Athletau
  • Gymnasteg
  • Beicio
  • Mabolgampau dŵr
  • Badminton
  • Pêl–fasged
  • Ffensio
  • Pêl–law
  • Pêl–droed
  • Rhwyfo
  • Hwylio
  • Saethu
  • Taekwondo
  • Tenis
  • Codi pwysau
  • Reslo
  • Hoci
  • Judo
  • Saethyddiaeth
  • Triathlon
  • Pêl–foli
  • Tenis bwrdd
  • Pentathlon
  • Bocsio
  • Marchogaeth

Medal aur Olympaidd yw’r anrhydedd fwyaf y gall athletwr neu chwaraewr proffesiynol obeithio ei ennill yn eu gyrfa. Mae medalau’n cael eu gwobrwyo i'r cystadleuwyr sy’n dod yn gyntaf, yn ail ac yn drydedd yn eu camp. Rhoddir medal aur ar gyfer y cyntaf, arian ar gyfer yr ail ac efydd ar gyfer y drydedd.

Y Seremoni Agoriadol

  • Mae’r Gemau Olympaidd yn agor gyda seremoni swyddogol lle y codir baner genedlaethol y wlad sy’n cynnal y gemau, a chaiff ei hanthem genedlaethol ei pherfformio
  • Mae’r seremoni’n cynnwys parêd gan y cenhedloedd sy’n cystadlu, lle y bydd athletwyr yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm fesul gwlad
  • Mae un athletwr/wraig anrhydeddus o bob gwlad yn cael cario baner y wlad, gan arwain gweddill yr athletwyr o’r wlad honno
  • Yn draddodiadol, Gwlad Roeg sy’n gorymdeithio’n gyntaf, a’r wlad sy’n cynnal y gemau sy’n dod yn olaf
  • Ar ôl i’r cenhedloedd i gyd fynd i mewn i’r stadiwm, mae llywydd Pwyllgor Trefnu’r Gemau Olympaidd o’r wlad honno yn gwneud araith. Dilynir hyn gan araith gan lywydd yr IOC, sydd yn ei dro yn cyflwyno pennaeth y wladwriaeth lle y cynhelir y digwyddiad i agor y Gemau’n swyddogol

Y Fflam Olympaidd

  • Uchafbwynt y seremoni agoriadol yw cynnau’r Fflam Olympaidd
  • Mae’r Fflam Olympaidd yn dân sy’n cael ei gadw i losgi trwy gydol y Gemau Olympaidd, a dyma symbol y Gemau. Mae’n cynrychioli gobaith bythol a dygnwch yr athletwyr
  • Mae’r Fflam Olympaidd yn cael ei gynnau yn y ddinas lle y dechreuodd y Gemau – sef Olympia yng Ngwlad Roeg – a chaiff ei gludo i’r ddinas sy’n cynnal y gemau gan redwyr sy’n cario’r Ffagl Olympaidd ac yn ei gyfnewid gyda rhedwyr eraill
  • Fel arfer, mae’r rhedwr olaf yn athletwr enwog sy’n rhedeg i mewn i’r stadiwm gyda’r ffagl yn ystod y Seremoni Agoriadol ac yn cynnau’r Fflam Olympaidd yng nghrochan y stadiwm

Y Seremoni Cau

  • Mae’r Gemau’n dod i ben gyda seremoni cau sy’n nodi diwedd y digwyddiad ac yn edrych ymlaen tuag at yr un nesaf
  • Mae tair baner genedlaethol yn cael eu codi wrth i’r anthemau cenedlaethol cael eu chwarae – baner Gwlad Roeg, baner y wlad lle y cynhaliwyd y Gemau, a baner y wlad fydd yn cynnal y Gemau nesaf
  • Mae cludwyr baner pob gwlad yn gorymdeithio i mewn i’r stadiwm, ond mae’r athletwyr yn cerdded y tu ôl iddyn nhw heb wahaniaethu o ran cenedligrwydd
  • Caiff y Fflam Olympaidd ei ddiffodd wrth i’r anthem Olympaidd gael ei chwarae, ac mae’r Faner Olympaidd a godwyd yn ystod y seremoni agoriadol yn dod i lawr, ac yn cael ei chario allan o’r stadiwm

A wyddost di...?

  • Mae’r cofnodion cyntaf o ddathlu’r Gemau Olympaidd yn yr Hen Roeg yn dod o 776 CC, ond fe gychwynnodd yn llawer cynharach na hyn
  • Roedd yr Hen Roegiaid yn credu’n gryf mewn cystadlu ac roedd pob agwedd o fywyd yn seiliedig ar yr egwyddor hon. Un o'r anrhydeddau mwyaf oedd ennill yn Olympia, ac felly'r unig wobr ar y pryd oedd torch olewydden
  • Cafodd enillwyr y Gemau yn yr Hen Roeg eu hanfarwoli mewn cerddi a cherfluniau

Gemau Olympaidd y Gaeaf

Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn 1924, yn fersiwn tywydd oer o'r Gemau Olympaidd ac yn cynnwys chwaraeon y gaeaf cynhelir ar iâ neu eira. Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf yn cael eu cynnal bob pedair blynedd, ond ar adeg wahanol i Gemau Olympaidd yr Haf.

Mae chwaraeon Olympaidd y Gaeaf yn cynnwys:

  • Rasio car llusg
  • Cyrlio
  • Hoci iâ
  • Sglefrio
  • Sgïo
  • Luge
  • Biathlon

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50