Croeso i Wrecsam Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Anabledd a Chwaraeon



Anabledd a Chwaraeon

Yn draddodiadol, doedd dim disgwyl i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon. Erbyn heddiw, mae miloedd ar filoedd ar hyd a lled y byd yn mwynhau gweithgareddau chwaraeon ar lefel hamddenol a lefel gystadleuol.

Mae amrediad eang o chwaraeon y gall pobl sydd ag anabledd corfforol neu feddyliol gymryd rhan ynddyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi’u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau, a’r rheiny sydd wedi’u dyfeisio’n arbennig ar gyfer pobl anabl.

Mae gan bobl anabl eu cystadlaethau rhyngwladol eu hunain, ond yn y blynyddoedd diweddar, mae’r rhain wedi dechrau ffurfio rhan o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd. Erbyn hyn, mae Athletwyr Elitaidd ag Anabledd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad.

Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru

  • Mae Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru yn gorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer pobl ag anableddau amrywiol. Ei nod yw hybu a datblygu cyfleoedd chwaraeon o ansawdd
  • Mae’r Ffederasiwn yn cwmpasu Sefydliadau Chwaraeon Anabledd Cenedlaethol a sefydliadau penodol ar gyfer chwaraeon unigol, fel Tenis Cadair Olwyn, Hoci Car–lusg, Criced, Badminton ayyb
  • Mae’r Ffederasiwn yn gweithredu Rhaglen Perfformiad Cenedlaethol sy’n cefnogi athletwyr addawol ac athletwyr a thimau anabledd elitaidd, trwy gyfrwng nifer o gynlluniau canfod talent
  • Mae gan y Ffederasiwn bum prif gamp: tenis bwrdd, codi pwysau, nofio, athletau a saethyddiaeth

Chwaraeon Anabledd Cymru

  • Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn fenter ar y cyd rhwng Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru
  • Nod y rhaglen yw datblygu cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol o ansawdd i bobl anabl ledled Cymru
  • Mae Chwaraeon Anabledd Cymru hefyd yn ceisio hybu a datblygu cyfleoedd mewn boccia, pêl–droed, criced, hoci car llusg, rygbi cadair olwyn, badminton a thenis cadair olwyn
  • Yn ogystal â’r campau hyn, mae gan bob awdurdod lleol raglen cyfleoedd chwaraeon y gall pobl anabl gymryd rhan ynddyn nhw

Related Media

Useful Links

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50