Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Cwpan PlDroed Y Byd
Yn yr Adran Hon
Cwpan Pêl–droed y Byd
Cwpan Pêl–droed y Byd yw’r gystadleuaeth bwysicaf yn y byd ar gyfer pêl–droed rhyngwladol. Mae mwy o bobl yn y byd yn gwylio’r digwyddiad hwn nag unrhyw ddigwyddiad chwaraeon arall. Caiff ei drefnu gan FIFA, sef prif gorff llywodraethu pêl–droed y byd.
Caiff Cwpan y Byd ei gynnal bob pedair blynedd, ac mae’n rhaid i dimoedd ymgeisio trwy broses sy’n para am dair blynedd. Mae’r broses ymgeisio yn cynnwys twrnameintiau sy’n cael eu cynnal o fewn chwe ardal gyfandirol FIFA. Mae FIFA yn rhoi nifer penodol o leoedd i bob ardal gyfandirol. Mae timoedd yn yr ardaloedd hynny’n chwarae yn erbyn ei gilydd i benderfynu pwy fydd yn cael y lleoedd hyn i gystadlu yng Nghwpan y Byd. Mae tîm y wlad lle y cynhelir y gystadleuaeth yn cael lle yn awtomatig. Mae’r timoedd sydd wedi mynd trwodd yn cystadlu yn nhwrnamaint Cwpan y Byd yn y wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth.
Fel arfer, mae 32 o dimoedd yn cymhwyso ac yn cystadlu yng Nghwpan y Byd. Mae’r wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth yn defnyddio mwy nag un stadiwm fel arfer. Mae enillwyr Cwpan y Byd yn cael tlws Cwpan y Byd FIFA, ac yn cael eu cydnabod yn bencampwyr y byd pêl–droed.
A wyddost di…?
- Cynhaliwyd Cwpan y Byd yn De Affrica yn 2010 a chafodd ei ddarlledu i 204 o wledydd. Gwyliodd 12.2 miliwn y gêm derfynol
- Aeth dros dair miliwn o bobl i weld y 64 gêm, cyfartaledd o 49,670 i bob gêm
- Enillodd Lloegr Gwpan y Byd yn 1966 yn y gêm derfynol yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn Stadiwm Wembley. Aeth y Frenhines a’r Tywysog Phillip i’r gêm, gyda 93,000 o wylwyr eraill yn y stadiwm
- Tlws Jules Rimet oedd tlws gwreiddiol cwpan y byd, a gafodd ei enwi ar ôl y Ffrancwr a Llywydd FIFA, Jules Rimet, a basiodd bleidlais yn 1929 i ddwyn timoedd pêl–droed cenedlaethol cryfaf y byd ynghyd i gystadlu am y teitl Pencampwyr y Byd
- Ychydig cyn Gêm Derfynol Cwpan y Byd yn Lloegr yn 1966, cafodd tlws Jules Rimet ei ddwyn yn ystod arddangosiad cyhoeddus yn Westminster Central Hall. Daethpwyd o hyd iddo saith niwrnod yn ddiweddarach, wedi’i lapio mewn papur newydd o dan berth ar waelod gardd yn Ne Llundain, gan gi o’r enw Pickles Rhoddwyd cwpan Jules Rimet i Frasil yn 1970 ar ôl iddyn nhw ennill y tlws am y drydedd waith, a phenderfynodd FIFA dylai gwobrwyo nhw
- Ar hyd y blynyddoedd, mae’r broses ymgeisio wedi newid. Doedd dim proses ymgeisio o gwbl yn 1930, ond erbyn 2006 mae’r broses hon yn para tair blynedd