Gwybodaeth » Pethau I'w Gwneud » Chwaraeon Rhyngwladol » Rhyw a Chwaraeonn
Yn yr Adran Hon
Rhyw a Chwaraeon
Yn draddodiadol, mae chwaraeon wedi’i gysylltu â gwrywdod, ac mewn sawl cymdeithas caiff ei ystyried yn amhriodol i fenywod gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.
Mae menywod a merched yn aml yn wynebu nifer o rwystrau ymarferol wrth geisio cymryd rhan mewn chwaraeon. Yn ogystal â diffyg cyfleusterau chwaraeon diogel a phriodol, diffyg sgiliau, adnoddau a chymorth technegol, fe all menywod wynebu rhwystrau eraill fel diffyg amser, a diffyg cyfleusterau gofal plant.
Fe all menywod ddioddef o harasio corfforol a/neu eiriol, yn ogystal â pheryglon eraill sy’n gysylltiedig â chymryd rhan mewn rhaglenni chwaraeon – oherwydd lleoliad ac amser o’r diwrnod, er enghraifft.
Mae yna ddiffyg modelau rôl fenywaidd fel hyfforddwyr neu arweinwyr benywaidd, ac nid yw merched yn cael eu cynrychioli yn ddigonol o fewn y cyrff sydd yn gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau chwaraeon.
Erbyn yr oedran 14 mae dwywaith cymaint o ferched yn rhoi'r gorau i chwaraeon nag bechgyn.
Sefydliad Chwaraeon Merched
Y 'Women’s Sports Foundation' yw'r sefydliad mwyaf blaenllaw yn y DU er gwella a hybu cyfleoedd i fenywod a merched mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
Cafodd ei sefydlu’n wreiddiol yn 1984 gan fenywod ym maes chwaraeon a oedd yn poeni am ddiffyg cyfleoedd chwaraeon a hamdden i fenywod a merched. Roedden nhw hefyd yn pryderu am ddiffyg menywod ym maes hyfforddi chwaraeon, rheoli chwaraeon a’r cyfryngau chwaraeon.
Ers hynny, mae’r 'Women’s Sports Foundation' wedi bod ynghlwm i amrywiaeth o brosiectau i hybu chwaraeon menywod. Mae’r rhain wedi cynnwys:
- Hyfforddiant ar gyfer ferched chwaraeon gorau Prydain ar weithio gyda’r cyfryngau, denu noddwyr, cyfleoedd gwaith mewn chwaraeon a hamdden, a derbyn budd–daliadau gan gymorth gwyddoniaeth chwaraeon
- Y 'National Action Plan for Women’s and Girls’ Sport and Physical Activity' sy’n hyrwyddo dull aml–asiantaeth o hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith menywod a merched
- 'Women Get Set Go': cwrs hunanddatblygiad gyda bwriad i roi cyfle i fenywod gael gwaith ym maes arweinyddiaeth chwaraeon, fel hyfforddwyr, gweinyddwyr neu swyddogion